Teithio rhyngwladol: Malta yn ymuno â'r rhestr werdd

Malta
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi newidiadau i'r rhestr oleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol.
Wedi'r adolygiad diweddaraf, fe fydd Malta, Madeira, Ynysoedd Balearig Sbaen a nifer o ynysoedd y Caribî yn ymuno a'r rhestr werdd, yn ôl The Independent.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau i gynghori yn erbyn teithio'n rhyngwladol oni bai ei fod yn hanfodol.
Caiff y rhestr deithio ei hadolygu bob tair wythnos.
Darllenwch y newidiadau'n llawn yma.