Newyddion S4C

Teulu gyrrwr beic modur a fu farw ger Maes Awyr Caerdydd yn diolch i’r rheini geisiodd ei achub

04/04/2024
B4265

Mae teulu gyrrwr beic modur a fu farw ger Maes Awyr Caerdydd wedi diolch i’r rheini geisiodd ei achub.

Bu farw Barrie Taylor, 51, o Ben y Bont yr Ogwr wedi gwrthdrawiad ar y B4265 rhwng y maes awyr a Llanilltud Fawr tua 13:10 ar 30 Mawrth.

Roedd ei feic modur Yamaha wedi gwrthdaro gyda car Skoda tua milltir o Gastell Ffwl-y-mwn.

Ceisiodd aelodau o’r cyhoedd a parafeyddygon ei help ond bu farw yn y fan a’r lle.

“Mae teulu Mr Taylor yn dymuno diolch i’r rheini am eu hymdrechion,” meddai’r heddlu.

“Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu a allai fod â lluniau camera cerbyd, i gysylltu â ni trwy un o’r dulliau canlynol gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400103405.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.