Newyddion S4C

‘Gobaith i filoedd’: Claf trawsblaniad aren mochyn yn gadael yr ysbyty

04/04/2024
Richard Slayman gyda meddygon ar ôl cael trawsblaniad aren mochyn

Mae’r claf cyntaf i dderbyn trawsblaniad aren wedi’i addasu’n enetig o fochyn wedi gadael yr ysbyty.

Fe dderbyniodd Richard "Rick" Slayman, 62 oed, yr organ ym mis Mawrth ar ôl llawdriniaeth arloesol yn Ysbyty Cyffredinol Massachusetts yn Boston, yr Unol Daleithiau.

Mae Mr Slayman yn dioddef o fethiant arennol cyfnod olaf, cyflwr cronig sy'n golygu nad yw ei arennau yn gallu gweithredu ar eu pen eu hunain mwyach.

Er gwaethaf blynyddoedd o ymchwil yn y gorffennol mae trawsblannu organau o foch sydd wedi cael eu haddasu yn enetig wedi methu.

Ond mae gwyddonwyr wedi dweud bod llwyddiant y driniaeth hon hyd yma yn garreg filltir hanesyddol.

‘Gobaith i filoedd’

Mewn datganiad, dywedodd Mr Slayman fod cael gadael yr ysbyty a mynd adref yn "un o eiliadau hapusaf" ei fywyd.

“Rwy’n gyffrous i gael treulio amser gyda fy nheulu, ffrindiau, ac anwyliaid yn rhydd o faich dialysis sydd wedi effeithio ar ansawdd fy mywyd ers blynyddoedd.”

Yn 2018, fe gafodd Mr Slayman drawsblaniad aren ddynol gan roddwr a oedd wedi marw, ond dechreuodd yr aren fethu'r llynedd.

Dyna pryd wnaeth ei feddygon sôn am y posibilrwydd o gael trawsblaniad aren mochyn.

“Roeddwn i’n ei weld nid yn unig fel ffordd i fy helpu, ond ffordd o roi gobaith i’r miloedd o bobl sydd angen trawsblaniad i oroesi,” meddai.

Cafodd yr aren ei haddasu gan y cwmni fferyllol eGenesis yn Massachusetts.

Fe'i golygwyd yn enetig gan ddefnyddio technoleg i gael gwared â genynnau moch niweidiol ac ychwanegu genynnau dynol penodol er mwyn gwella'i addasrwydd ar gyfer bodau dynol.

Mae ymchwilwyr wedi bod yn ceisio addasu moch yn enetig mewn ffordd sy'n lleihau'r siawns y bydd y trawsblaniad yn cael ei wrthod gan y system imiwnedd dynol ers y 2000au cynnar.

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd, mae 7,465 o bobl yn disgwyl am drawsblaniad yn y DU.

Bu farw dros 430 o bobl y llynedd yn y DU wrth aros am drawsblaniad.

Llun: Ysbyty Cyffredinol Massachusetts 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.