Stadiwm y Principality yn cyhoeddi dyddiad agor atyniad newydd ar y to
Mae Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd ei atyniad newydd ar y to yn agor ddiwedd mis Ebrill.
Bydd Scale yn cyfuno “adrenalin a golygfeydd panoramig" mewn ymgais i "ddenu cynulleidfa ehangach i gartref rygbi Cymru”.
Bydd yr atyniad newydd yn agor i’r cyhoedd ddydd Llun, 29 Ebrill.
Mae'r atyniadau yn cynnwys "nyth brain", a fydd yn eistedd 60m uwchben llawr y stadiwm, yn ogystal â llinell sip (zip wire) ar draws y to.
Dywedodd prif swyddog gweithredol Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rydym wrth ein bodd cyhoeddi dyddiad agor Scale yn unol â phen-blwydd Stadiwm y Principality yn 25 oed.
"Mae ein hatyniad to yng nghalon Cymru yn cyfuno cyffro chwaraeon antur â threftadaeth gyfoethog ein stadiwm eiconig."
Mae archebion â blaenoriaeth yn agor ddydd Mercher, 3 Ebrill, i'r rhai sydd wedi prynu talebau.
Bydd archebion cyhoeddus yn mynd yn fyw ddydd Iau, 4 Ebrill.