Newyddion S4C

Y cloc yn tician i TikTok?

Newyddion S4C 03/04/2024

Y cloc yn tician i TikTok?

Ers dyddiau’r pandemig, mae poblogrwydd Tik Tok wedi dal dychymyg y byd, ond er gwaetha'r oriau o sgrolio mae yna boeni am ddiogelwch data defnyddwyr yr ap.

Yn America, eisoes mae Tŷ’r Cynrychiolwyr o blaid ei wahardd, ond bydd angen sêl bendith y Senedd ynghyd a’r Tŷ Gwyn, ac mae Joe Biden yn awyddus i wneud hynny, i ddiogelu data y 170 o filynau o Americanwyr sy'n defnyddio’r ap. 

Ac er yr oriau o sgrolio mae yna boeni ledled y byd am y safle gan mai cwmni o  China  - Bytedance - ydi perchnoion yr  ap. Y cwestiwn mae llawer yn gofyn ydy  beth yn union maen nhw yn gwneud gyda’r wybodaeth helaeth maen nhw’n casglu am bobl sy’n defnyddio'r safle.  

Yn ôl Garmon Dyfri, sylwebydd gwleidyddol, sy’n byw yn Washington DC mae yna ewyllys gwleidyddol i’w reoleiddio neu ei wahardd.  
 
“Mae America yn wlad ranedig.. Ond un man lle ma na undod trawslbleidiol, yw’r agwedd gwrth-China a dyna sydd wrth wraidd gwahardd Tik Tok,” meddai.
 

“Y pryder fod data 170 miliwn o ddefnyddwyr yn cael ei gasglu ac yna yn cael eu pasio mlaen i Beijing sydd yn ei dro yn defnyddio’r data cyfoethog hwnnw i ddatblygu rhyw fantais strategol i China mewn meysydd fel yn AI neu arafu milwrol a bod America felly yn cwympo nôl yn erbyn China oherwydd data Americanwyr."

'Colli cyflog'

Fis Mawrth 2024 fe wnaeth Llywodraeth India wahardd y platfform oherwydd pryderon am ddiogelwch. 

Yn ôl Ellis Lloyd Jones, sy’n codi tal o £1,250 o bunnoedd am greu un fideo Tik Tok, mae’r amheuon am ei wahardd dros yr Iwerydd yn bryder.

“Yn gyntaf fydden i’n colli cyflog, colli swydd, colli llwyth o gyfleoedd. Ma Tik Tok fel CV i fi," meddai.

“Nes i adael swydd llawn-amser fi achos ma Tik Tok a chreu’r cynnwys ma gyd yn troi mewn i swydd lawn amser. Ond mae lot o’r arian fi’n ennill yn dod o Tik ac mae meddwl agllai hynny ddiflannu rhyw ddydd... sa i’n gwybod beth fydde’n i’n gwneud rili."

'Pryder'

Fis Mawrth 2023 fe benderfynodd Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan wahardd gweinidogion ac ASau rhag defnyddio'r ap ar eu ffonau gwaith yn dilyn adolygiad.

Buan wedi hynny fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddilyn yr un drefn.

Cysylltu a’r genhedlaeth ifanc yw'r prif reswm pam fod rhai gwleidyddiont dros ddefnyddio TikTok, ac er yn ei ddefnyddio at y ddiben honno, yn  ôl Mabon ap Gwynfor, A.S. Dwyfor Meirionnydd mae angen bod yn wyliadurus. 

“Boed i ni ei licio hi neu beidio, dyna lle ma carfan fawr o’r cyheodd a dyna lle nhw’n cael ei newyddion a’u gwybodaeth. Dydyn nhw ddim ar y cyfryngau confesiynol erbyn hyn, ddim yn gwrando a phob parch ar newyddion neu’n darllen y papurau newydd, “ meddai. 

“Mae e’n bryder. Mae'n  rhaid i ni feddwl lle mae’r wybodaeth ry'ni’n rhannu ar y fforymau cymdeithasol; ble ma nhw’n mynd ac at ba ddiben,. Ni’n gweld gydag AI ar hyn o bryd ei fod yn bosib i bobl sydd a bwriad llai gonest i defnyddio'r deunydd yna mewn ffyrdd eraill.”

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu cynnwys ar TikTok, gan wario £153,000  y llynedd ar y platfform. 

Yn  ôl llefarydd ar ran Tik Tok, mae’r cwmni’n “cyfrannu 1.6 biliwn i economi y DU,  gan gynnal 32,000 o swyddi gan gynnwys swyddi yma yng Nghymru.

“Ry ni’n buddsoddi 10 biliwn o bunne mewn systemau diogelwch blaenllaw i ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.