Yr eglwys gyntaf yng Nghymru i gynnig gwasanaeth 15 munud
Mae eglwys yn Abertawe ar fin bod y gyntaf yng Nghymru i gynnig gwasanaeth pymtheg munud o hyd.
O fis Mai, bydd Eglwys Dewi Sant ym Mhenllergaer yn rhoi’r cyfle i bobl gael hoe o’u bywyd prysur trwy gynnig gwasanaeth byrrach na’r arfer yng nghanol yr wythnos.
Cafodd y Parchedig John Gillibrand y syniad am y gwasanaeth wrth feddwl am yr heriau roedd rhai pobl yn ei gymuned yn eu hwynebu ar ôl y pandemig.
“Rhoi cymorth i bobl ganfod heddwch mewn byd llawn gofid” yw gobaith y gwasanaeth i’r Parchedig Gillibrand.
Dywedodd: “Un o’r pethau wnaeth fy nharo i fel parchedig mewn plwyf yw’r pwysau sydd ar unigolion a theuluoedd, a dyma greu'r gwasanaeth byr hwn yn sgíl y pwysau hwnnw”
“Ni fydd y gwasanaeth yn hirach na’n llai na phymtheg munud. Rydym yn gwneud hyn i alluogi’r rheiny sy’n teithio adref o’u gwaith i alw mewn i’r eglwys, i gael lle am heddwch a thawelwch ac i addoli, cyn mynd adre at ba bynnag her maent yn ei hwynebu.”
Bwriad arall y gwasanaeth yw adfer y golled o 50,000 o aelodau mae’r Eglwys yng Nghymru wedi gweld dros y 25 mlynedd ddiwethaf. Mae’r cwymp yn y nifer sy’n mynychu’r Eglwys yng Nghymru wedi golygu colled ariannol o £1 miliwn mewn cyllid hefyd.
Gobaith y Parchedig Gillibrand yw profi parodrwydd yr Eglwys yng Nghymru i dorri tir newydd a “wynebu problemau heriol.”
Mae'n dweud nad bwriad y gwasanaethau newydd yw cymryd lle y gwasanaethau Sul, ond yn hytrach yn “ffordd o fod yn yr eglwys” pan nad yw amser fel arfer yn caniatâu.
Dywedodd fod angen i eglwysi ganfod ffyrdd i wasanaethu eu cymunedau.
“Ry’n ni’n gwneud rhywbeth gwahanol, ry’n ni’n ceisio gwneud rhywbeth newydd," meddai..
“Mae angen i eglwysi fod yn effro i’w cyd-destun ac i’r cyd-destun maen nhw’n gweithio ynddo. Os nad yw hyn yn digwydd, wedyn rydym yn dechrau wynebu problemau, dyma ddechrau wedyn ar y datgysylltiad hwnnw rhwng yr eglwys a’r gymdeithas ehangach.”