Newyddion S4C

Dyn oedd ar fws rhwng Caernarfon a Chricieth wedi mynd ar goll

29/12/2024
william

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd ar goll yng Ngwynedd ers prynhawn dydd Sadwrn.

Dywed swyddogion bod y dyn o'r enw William wedi ei weld ddiwethaf ar fws oedd yn teithio o Gaernarfon i gyfeiriad Cricieth.

Roedd yn gwisgo trowsus cordiwroi brown, cot las, cap, esgidiau cerdded, gyda sach deithio ac o bosib roedd yn cario ambarél. 

Mae tua phum troedfedd wyth modfedd o daldra. 

Os oes unrhyw un yn gwybod lle allai fod, mae'r heddlu'n gofyn i bobl eu ffonio ar rif 101 gan ddyfynnu y cyfeirnod Q194939.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.