Tri wedi marw wrth geisio croesi'r Sianel o Ffrainc ddydd Sul
Mae o leiaf tri o bobl wedi marw wrth geisio croesi’r Sianel mewn cychod bach, yn ôl yr awdurdodau yn Ffrainc.
Dechreuodd ymgyrch achub ar raddfa fawr oddi ar arfordir Sangatte, ger Calais, yn gynnar ddydd Sul yn dilyn adroddiadau bod tua 50 o bobl wedi mynd i drafferthion.
Cadarnhaodd yr awdurdodau yn Ffrainc fod tri o bobl wedi marw a 45 arall wedi’u hachub, gyda phedwar yn cael eu cludo i’r ysbyty gyda hypothermia.
Y marwolaethau, a ddigwyddodd yn nyfroedd Ffrainc, yw’r rhai cyntaf yn y Sianel ers mis Hydref ac maen nhw’n dod â chyfanswm y bobl sydd wedi marw wrth geisio croesi i Loegr eleni i o leiaf 53.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Gallwn gadarnhau bod digwyddiad wedi bod yn y Sianel yn ymwneud â chwch bach yn nyfroedd Ffrainc.
“Mae awdurdodau Ffrainc yn arwain yr ymateb a’r ymchwiliad. Ni fyddwn yn gwneud sylw pellach ar hyn o bryd.”
Daw’r digwyddiad yn dilyn pedwar diwrnod o bobl yn croesi mewn cychod bach - gyda chyfanswm o 1,485 o bobl yn gwneud y daith – y cyfnod prysuraf dros y Nadolig ers i gofnodion ddechrau yn 2018.
Roedd ffigyrau gafodd eu cyhoeddi ddydd Sul yn dangos bod 322 o bobol wedi croesi’r Sianel mewn chwe chwch ddydd Sadwrn, tra bod mwy o bobol i’w gweld yn cyrraedd Dover ddydd Sul.
Llun: PA