Rhybuddion melyn am wynt a glaw i Gymru ar drothwy'r flwyddyn newydd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn am wynt a glaw i Gymru ar drothwy'r flwyddyn newydd.
Bydd rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar gyfer Cymru gyfan rhwng 09.00 Dydd Calan a 06.00 ddydd Iau 2 Ionawr.
Gall hyrddiadau gyrraedd 60 mya mewn ardaloedd mewndirol, gyda rhai mannau arfordirol yn profi gwyntoedd hyd at 75 mya.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i'r mwyafrif o Gymru rhwng 09.00 a 21.00 Dydd Calan.
Bydd y rhybudd melyn am law mewn grym ar gyfer y siroedd canlynol:
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Wrecsam
Daw'r rhybuddion wedi i niwl trwchus darfu ar hediadau yn rhai o feysydd awyr prysuraf Prydain dros y penwythnos.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira ar gyfer rhan helaeth o'r Alban dydd Llun a Nos Galan.
Llun: Matthew Horwood / Wochit