Newyddion S4C

Atgyweiriad 20 milltir yn achosi 'cyfnod anodd' i drigolion pentref yn Sir Gaerfyrddin

Newyddion S4C 03/04/2024

Atgyweiriad 20 milltir yn achosi 'cyfnod anodd' i drigolion pentref yn Sir Gaerfyrddin

Wedi i'r brif heol rhwng Brynaman Uchaf ac Isaf gael ei chau, mae pobl leol yn dweud eu bod nhw'n wynebu "cyfnod anodd".

Bydd heol yr A4069 sydd yn uno'r ddau bentref ynghau am ryw dair wythnos wedi i hen dwnel glofaol ddymchwel.

Mae ffordd gefn i gael, ond ers i'r gwaith ffordd ddechrau ddydd Mawrth mae gwrthdrawiadau wedi bod, a loriau wedi mynd yn sownd, gan olygu bod angen teithio bron i ugain milltir o gylch y cwm i deithio rhwng Brynaman Uchaf a Brynaman Isaf.

Yr Awdurdod Glo sydd yn gyfrifol am y gwaith o atgyweirio'r ffordd. Mewn datganiad, ddywedon nhw mai diogelwch y cyhoedd yw eu blaenoriaeth a bod yn rhaid cau'r hewl wrth wneud y gwaith atgyweirio.

Mae pont dros dro wedi ei chodi fydd yn galluogi cerbydau'r gwasanaethau brys i groesi petai rhaid, ac mae'r pafin hefyd ar agor.

Mae'r Awdurdod Glo yn "ymddiheuro am anghyfleustra i bobl eraill".

Effaith

Dywedodd sawl un wrth Newyddion S4C bod cau'r ffordd yn achosi pen tost iddyn nhw.

Wedi'r gwyliau Pasg, bydd mab 16 oed Aranwen Thomas, Cai, yn dychwelyd i Ysgol Dyffryn Aman  ddydd Llun.

Oherwydd y gwaith, bydd ei fws ysgol nawr yn gadael am 7 o'r gloch y bore a'r daith i Rydaman yn cymryd awr a hanner bob ffordd.

Mae ei fam yn poeni am yr effaith bosib ar ei addysg.

"Mae'r disgyblion yma yn mynd i fod dan anfantais, yn dod nol yn hwyrach yn y nos, a jesd y siwrne o 3 awr ar y bws yn ddyddiol yn ystod cyfnod pwysig," meddai.

"Mae'n mynd i gael effaith ar y disgyblion o ran amser iddyn nhw baratoi ac adolygu at yr arholiadau sydd wir ar y gorwel."

Image
Aranwen Thomas
Bydd mab Aranwen Thomas, Cai yn wynebu tair awr o deithio y diwrnod oherwydd y gwaith ar yr heol.

Dywedodd Scott Davies sydd, yn gweithio yng nghanolfan y Mynydd Du, fod effaith ar fusnesau Brynaman Uchaf hefyd:

"Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn a dim ond dydd dau yw e.

"Mae busnesau ddim yn cael deliveries - ni di cael dau delivery ddim yn dod."

Yn ôl Cynghorydd Sir dros ward Cwarter Bach, Glynog Davies, mae'r gwaith "yn dipyn o anghyfleustra" ond yn "gwbl angenrheidiol".

Mae’r Awdurdod Glo yn gobeithio bydd modd ailagor yr hewl mewn tair wythnos.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.