Newyddion S4C

O leiaf naw person wedi marw yn dilyn daeargryn yn Taiwan

03/04/2024

O leiaf naw person wedi marw yn dilyn daeargryn yn Taiwan

Mae'r ddaeargryn cryfaf i daro Taiwan ers 25 mlynedd wedi lladd naw o bobl ac anafu o leiaf 900.

Mae wedi achosi toriadau yn y cyflenwad trydan, a thirlithriadau ar yr ynys a cafodd nifer o adeiladau eu dymchwel.

Tarodd y ddaeargryn, oedd yn mesur 7.4 ar  raddfa Richter, yn agos at Hualien tua 07:58, dinas sy’n boblogaidd gyda thwristiaid ar arfordir dwyreiniol Taiwan.

Mae hefyd wedi achosi rhybuddion am tswnami cychwynnol posib yn ne Japan ac Ynysoedd  y Philippines.

Dywedodd yr asiantaeth dân yn Taiwan fod 64 o bobl yn gaeth mewn un pwll glo, a chwech mewn un arall, tra bod gweithwyr achub wedi colli cysylltiad â 50 o bobl oedd yn teithio mewn bysiau mini trwy barc cenedlaethol, wrth i’r daeargryn achosi difrod i rwydweithiau ffôn.

Roedd fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos plant yn cael eu hachub o adeiladau preswyl a oedd wedi dymchwel. 

Mae un adeilad pum llawr yn Hualien wedi dymchwel, gyda rhan o'r adeilad yn pwyso ar ongl 45 gradd.

Ymhellach i'r gogledd, llithrodd rhan o bentir Ynys Guishan, atyniad i dwristiaid a elwir hefyd yn Ynys y Crwbanod, i'r môr. 

Yn y brifddinas, Taipei, cafodd nifer o bobl eu hachub o adeilad a oedd wedi dymchwel yn rhannol, a disgynnodd teils o adeiladau.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.