Fêpio yn cynyddu risg methiant y galon ‘yn sylweddol’
Mae ymchwil newydd wedi awgrymu y gallai fêpio gynyddu’r risg o fethiant y galon “yn sylweddol”.
Yn ôl y canfyddiadau roedd calonnau pobl sy’n fêpio 19% yn fwy tebygol o fethu o'u cymharu â'r rhai nad oeddent erioed wedi defnyddio e-sigaréts.
Mae methiant y galon yn golygu nad yw'r galon yn gallu pwmpio gwaed o amgylch y corff yn iawn. Mae'n digwydd fel arfer oherwydd bod y galon wedi mynd yn rhy wan neu anystwyth.
Cafodd mwy na 175,000 o bobl yn yr Unol Daleithiau – rhai a oedd yn fêpio a rhai a oedd ddim – eu cynnwys yn yr astudiaeth.
Dywedodd Dr Yakubu Bene-Alhasan, prif awdur yr astudiaeth o MedStar Health yn Baltimore yn nhalaith Maryland: “Mae mwy a mwy o astudiaethau yn cysylltu e-sigaréts ag effeithiau niweidiol ac yn awgrymu nad ydyn nhw mor ddiogel ag y tybiwyd o’r blaen.
“Roedd y gwahaniaeth a welsom yn sylweddol. Mae’n werth ystyried y canlyniadau i’ch iechyd, yn enwedig o ran iechyd y galon.”
Cyfyngu
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn amcangyfrifif bod gan fwy na miliwn o bobl yn y DU fethiant yn y galon.
Dywedodd ymchwilwyr fod canlyniadau astudiaeth newydd yn dangos yr angen am ymchwil ychwanegol i effeithiau posibl fêpio ar iechyd y galon.
Mae'r canfyddiadau'n cael eu cyflwyno yn sesiwn wyddonol flynyddol Coleg Cardioleg America.
Fis diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth gyda’r nod o ffrwyno ysmygu e-sigaréts ymhlith pobl ifanc gyda’r Bil Tybaco a Fêps.
Y nod yw cyfyngu ar flasau anwedd a phecynnu sy’n cael ei farchnata’n fwriadol i blant.
Maen nhw hefyd am fêps tafladwy o fis Ebrill 2025 o dan gyfreithiau amgylcheddol.