Cyhoeddi enwau'r tri o Brydain a gafodd eu lladd yn Gaza
Cyhoeddi enwau'r tri o Brydain a gafodd eu lladd yn Gaza
Mae enwau'r tri gweithiwr dyngarol o Brydain fu farw yn Gaza wedi cael eu cyhoeddi.
Roedd John Chapman, James Henderson a James Kirby ymysg saith o weithwyr elusen yr World Central Kitchen (WCK) a gafodd eu lladd wedi ymosodiad gan Israel ddydd Llun.
Mae'r elusen wedi gohirio ei gwasanaethau, gan ddweud fod y rhai eraill fu farw yn dod o Awstralia, Gwlad Pwyl, Palesteina a dinesydd o'r UDA a Canada.
Dywedodd y Prif Weinidog Rishi Sunak fod y marwolaethau wedi ei "ddychryn" ac mae wedi galw am ymchwiliad.
Brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Mr Netanyahu bod eu hymosodiad "anfwriadol" wedi lladd "bobl ddiniwed" yn Gaza.
Mewn neges fideo, dywedodd: "Yn anffodus, yn y 24 awr ddiwethaf, roedd achos trasig pan darodd ein lluoedd bobl ddiniwed yn anfwriadol ar Lain Gaza.
"Mae'n digwydd mewn rhyfel. Rydym mewn cyswllt â'r llywodraethau, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."
Roedd y tîm wedi bod yn gadael warws Deir al-Balah lle'r oeddent wedi bod yn dadlwytho cymorth bwyd yn ôl yr elusen.
Mae'r Ysgrifennydd Tramor, Yr Arglwydd Cameron wedi siarad gydag Ysgrifennydd Tramor Israel, Israel Katz i bwysleisio fod marwolaethau'r gweithwyr dyngarol yn "gwbl annerbyniol".