Dyn yn pledio'n euog i ddwyn toiled aur
Mae dyn wedi pledio’n euog i ddwyn toiled aur gwerth £4.8 miliwn o Balas Blenheim yn Sir Rhydychen yn 2019.
Fe blediodd James Sheen, 39 oed o Wellingborough yn Sir Northampton yn euog i fwrgleriaeth yn Llys Ynadon Rhydychen.
Fe gafodd y toiled 18-carat ei ddwyn ym mis Medi 2019 tra oedd yn rhan o arddangosfa gelf.
Roedd Sheen wedi ymddangos yn y llys trwy gyswllt fideo o garchar HMP Five Wells yn Wellinborough, gan ei fod eisoes wedi cael ei ddedfrydu i’r carchar am gyfnod o 17 mlynedd am sawl bwrgleriaeth arall.
Mae’r troseddau hynny yn cynnwys dwyn gwerth £400,000 o dractorau, yn ogystal â dwyn tlysau drudfawr o amgueddfa rasio ceffylau genedlaethol yn Newmarket.
Mae tri dyn arall wedi pledio’n ddieuog i’r cyhuddiadau sy’n ymwneud â lladrad y tŷ bach.
Mae Michael Jones, 38 oed o Rydychen, wedi ei gyhuddo o fyrgleriaeth.
Mae FredericK Sines o Ascot, Berkshire a Bora Guccuk o orllewin Llundain wedi eu cyhuddo o gynllwynio er mwyn trosglwyddo eiddo troseddol.
Mae disgwyl i’r dynion ymddangos yn y llys ym mis Chwefror, 2025.
Llun: Pete Seaward/Blenheim Palace/PA Wire