
Ffoadur o Wcráin yn 'helpu pobl i wella'

Mae ffoadur o Wcráin sy’n byw yng Nghymru wedi siarad am sut roedd ei hyder wedi “gwella’n sylweddol” o ganlyniad i dderbyn cydnabyddiaeth am ei gwaith fel swyddog cymorth ac fel gwirfoddolwr.
Fe wnaeth Julia Trukhan siarad ag ITV Cymru am y Gwobrau Cenedl Noddfa yng Nghymru.
Roedd Julia wedi cael ei gorfodi i ffoi o Wcráin o ganlyniad i ymosodiad Rwsia ym mis Chwefror 2022.
“Do’n i ddim yn credu y byddai rhyfel yn digwydd tan yr eiliad olaf. Pan wnes i adael Kyiv roedd lluoedd Rwsia 10 munud i ffwrdd o’m drws ac roedd pawb mor ofnus ac isel eu hysbryd.”
Yn dilyn yr ymosodiad, fe wnaeth Julia symud i'r DU i geisio am loches. Pan oedd hi yng Nghasnewydd, fe wnaeth hi gwrdd â phobl sy'n gweithio yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC).
“Cyn y swydd hon, fy mhwrpas fel cyfrifydd oedd gwneud cyfranddalwyr yn gyfoethocach, nid yn well. Mae gweithio i’r WRC yn rhoi cymaint o foddhad oherwydd rwy’n gallu helpu pobl i wella,” meddai.
O ganlyniad i’w hymdrechion i helpu ffoaduriaid i gael gwaith ac addysg, fe wnaeth Julia ennill y Wobr Ysbryd Entrepreneuriaid yng Ngwobrau Cenedl Noddfa yn 2023.
Dywedodd Julia: “Fy arwyddair yw os ydw i’n gallu gwneud, chi’n gallu gwneud - trwy'r mantra hwn rydw i wedi helpu 4 o Wcrainiaid i ddod o hyd i swyddi yn gweithio ym maes cyfrifeg.
“Mae’n bwysig bod cyngor yn dod gan bobol sydd wedi bod mewn sefyllfaoedd tebyg i ddangos iddyn nhw ei bod hi’n bosib adeiladu bywyd yma. Gall cynllun cymorth addysg a chyflogadwyedd WRC newid eich bywyd.”
“Ro’n i’n teimlo mor falch o ennill y wobr a chael cydnabyddiaeth. Mae’n ymwneud â hyder. Mae derbyn canmoliaeth fel hyn yn golygu bod eich hyder yn codi’n aruthrol.”
Arweinydd y dyfodol
Fe wnaeth Fatmanur Aksoy, 18 oed, ennill y wobr am Arweinydd y Dyfodol y llynedd yng Ngwobrau Cenedl Noddfa. Mae Aksoy, o Gasnewydd yn ferch i ffoaduriaid wnaeth ffoi o Dwrci.
Ers iddi fod yn 12 oed mae Fatmanur, sy’n aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, wedi bod yn gwirfoddoli i helpu ffoaduriaid yng Nghymru.
“Ro’n i’n teimlo bod fy holl waith caled wedi talu ar ei ganfed. Weithiau, bydden ni yn gweithio tan hanner nos i helpu ffoaduriaid o Irac ac Iran gyda chyfieithu.”
Fe wnaeth ei gwirfoddoli a’i gwaith gyda’r Senedd Ieuenctid, Cyngor Ieuenctid Casnewydd a Grŵp Pobl Ifanc y Swyddfa Gartref arwain at gyfarfod â’r Tywysog William i drafod materion sy’n wynebu ffoaduriaid.

“Fel gwlad, rwy’n teimlo bod Cymru’n gwneud llawer dros ffoaduriaid ac rwy’n hynod falch o fod yn rhan ohoni. Rwyf am adeiladu ar y profiadau gefais ac astudio i fod yn gyfreithiwr ac yn y pen draw, dod yn Ysgrifennydd Cartref yn y DU.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ffoaduriaid Cymru: "Os ydych chi eisiau i rywun deimlo croeso, mae'n hanfodol i ddangos gwerthfawrogiad iddyn nhw. Mae Gwobrau Cenedl Noddfa yn caniatáu inni wneud hynny.
“Mae’r Gwobrau hyn yn dweud 'da iawn' a 'diolch' i bobl o bob rhan o’r byd sydd wedi dod i Gymru, nid yn unig i geisio noddfa a diogelwch, ond i gyflawni eu llawn botensial.
“Maen nhw hefyd yn cydnabod cyfraniadau unigolion a sefydliadau sy’n cefnogi ceiswyr lloches wrth iddyn nhw ddechrau eu bywydau newydd yng Nghymru.”