Newyddion S4C

Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn ymchwilio i honiad o hiliaeth

02/04/2024

Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn ymchwilio i honiad o hiliaeth

Mae Clwb Pêl-droed Tref Merthyr yn ymchwilio i honiad o hiliaeth ar ôl gêm ddydd Llun.

Mae'r clwb, sy'n chwarae yn seithfed haen cynghrair Lloegr, yn dweud eu bod wedi cael gwybod am ddigwyddiad honedig yn ystod eu gêm yn erbyn Hungerford Town.

Mae'r clwb o Loegr wedi cyhuddo “rhan o’r dorf gartref” o gam-drin yr amddiffynnwr Ramarni Medford-Smith yn hiliol yn ystod buddugoliaeth Merthyr o dair gôl i ddim.

Dywedodd Merthyr eu bod yn "condemnio'n gryf" unrhyw ymddygiad o'r fath a'u bod yn gweithio gyda swyddogion y gêm a Hungerford Town i ddelio â’r digwyddiad honedig “cyn gynted â phosibl”.

"Mae ymchwiliadau i'r digwyddiad yn parhau. Fodd bynnag, fel clwb cymunedol, mae CPD Tref Merthyr yn condemnio'n gryf y defnydd o iaith hiliol, sarhaus neu homoffobig o unrhyw fath, boed hynny gan gefnogwr rheolaidd neu ddim; gartref neu oddi cartref.

“Yn syml, ni fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei dderbyn, a bydd camau priodol yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw unigolyn sy'n cael ei adnabod - gan gynnwys gwaharddiad oes o’r clwb, ac unrhyw gamau cyfreithiol a allai ddilyn.”

'Anfaddeuol'

Ar ôl y gêm, dywedodd rheolwr Hungerford, Danny Robinson, bod "pêl-droed yn amherthnasol heddiw ar ôl profiad fy chwaraewr ".

“Mae cael eich cam-drin yn hiliol yn 2024 yn gwbl anfaddeuol ac mae angen i rywbeth mawr ddigwydd.

Ychwanegodd na fyddai wedi beio'r chwaraewr am adael y cae, ond eu bod wedi trafod a bod Ramarni Medford-Smith eisiau parhau i chwarae.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.