Newyddion S4C

Arestio dyn ar amheuaeth o rannu lluniau o natur bersonol ar-lein heb ganiatâd menywod

02/04/2024
Cyfrifiadur

Mae dyn 25 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o rannu lluniau personol a phreifat o fenywod ar-lein, heb eu caniatâd. 

Cyhoeddodd Heddlu De Cymru bod y gyfraith wedi newid ar 1 Chwefror sy'n golygu fod gweithredoedd o'r fath yn anghyfreithlon bellach. 

Oddi mewn i'r gyfraith newydd o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein 2023, mae hi'n drosedd i rannu lluniau o natur bersonol neu ddeunydd ffilm heb ganiatâd. 

Cyhoeddodd yr heddlu fod y dyn wedi ei arestio ar 26 Mawrth, a'i fod bellach wedi ei ryddhau wrth i'w hymchwiliad barhau. 

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andrew Westlake, pennaeth yr Uned Troseddau Seibr: “Mae Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i warchod a diogelu dioddefwyr troseddau. Mae nifer cynyddol yn defnyddio'r cyfryngau ar-lein er mwyn plagio a chodi ofn ar fenywod.”  

“Byddwn yn ymrechu hyd eithaf ein gallu i ymchwilio i'r achosion hyn yn drylwyr. ”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.