Donald Trump yn talu bond $175m yn ei achos twyll sifil
Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi talu bond $175 miliwn (£140 miliwn) yn ei achos twyll sifil yn Efrog Newydd.
Yn wreiddiol, roedd Donald Trump wedi cael ei orchymyn i dalu’r dyfarniad $464 miliwn yn llawn.
Ond dywedodd y llys apêl y gallai dalu’r swm is os byddai'n gwneud hynny o fewn 10 diwrnod.
Ym mis Chwefror, cafwyd Mr Trump yn euog o chwyddo gwerthoedd ei eiddo.
Mae Mr Trump yn gwadu ei fod wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Os bydd yn colli ei apêl, bydd yn rhaid iddo ddod o hyd i'r $464 miliwn.
Dywedodd cyfreithwyr Mr Trump y byddai sicrhau bond am y swm hwnnw yn "amhosibilrwydd ymarferol".
Fe fydd Mr Trump yn mynd benben â Joe Biden ar gyfer etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau sy'n cael ei gynnal ar 5 Tachwedd 2024.