Newyddion S4C

Plentyn 12 oed wedi marw a nifer wedi eu hanafu yn dilyn saethu mewn ysgol yn Y Ffindir

02/04/2024

Plentyn 12 oed wedi marw a nifer wedi eu hanafu yn dilyn saethu mewn ysgol yn Y Ffindir

Mae plentyn 12 oed wedi marw a nifer wedi’u hanafu wedi saethu mewn ysgol yn ninas Vantaa yn Y Ffindir, meddai’r heddlu.

Dywedodd yr heddlu’n gynharach fod y dau a gafodd eu hanafu hefyd yn 12 oed.

Mae un plentyn 12 oed wedi cael ei arestio yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd rhieni wrth gyfryngau’r Ffindir fod y saethu wedi digwydd mewn ystafell ddosbarth yn ysgol Viertola yn Vantaa i’r gogledd o’r brifddinas Helsinki.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cyrraedd yr ysgol o fewn naw munud am 09:17 (06:17 GMT).

Roedd y plentyn 12 sy'n cael ei ddrwgdybio o saethu wedi ei arestio yn ardal ogleddol Siltamaki yn y brifddinas Helsinki am 10.00, meddai'r heddlu.

Ychwanegon nhw ei fod wedi bod yn dal arf tanio yr oedden nhw wedi ei gymryd oddi arno a'i fod wedi cyfaddef iddo saethu.

Mae'r heddlu bellach wedi agor ymchwiliad i lofruddiaeth a cheisio llofruddio.

Yn ôl adroddiadau yn Y Ffindir mae gan yr ysgol 800 o fyfyrwyr a 90 o staff. 

Dywedodd tystion wrth y darlledwr cyhoeddus YLE fod dau ambiwlans wedi gadael y safle. 

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.