Prisau tai ar gyfartaledd wedi gostwng ym mis Mawrth
Mae prisiau tai wedi gostwng ar gyfartaledd yn y DU 0.2% ym mis Mawrth.
Ond mae arwyddion y bydd prisiau yn cynyddu yn y misoedd i ddod.
Mae gwerth tŷ wedi codi 1.6% yn flynyddol. Erbyn hyn mae pris tŷ ar gyfartaledd yn y DU yn costio £261,142, medd Cymdeithas Adeiladu Nationwide.
Yng Nghymru, mae'r pris wedi codi 1.2% i £202,533.
Dywedodd Robert Gardner, prif economegydd Nationwide bod mwy o bobl yn holi am forgeisi.
“Mae syrfewyr yn dweud bod cynnydd wedi bod mewn ymholiadau gan brynwyr newydd a bod pobl wedi bod yn gorchymyn i werthu yn y misoedd diwethaf.”
Ychwanegodd bod cyflogau yn raddol yn codi yn gynt na’r cynnydd mewn prisiau tai sydd yn golygu bod hi’n fwy fforddiadwy i brynu.
Roedd y mynegai hefyd yn cynnwys data ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU, gan ddangos newidiadau blynyddol yn ystod y tri mis hyd at fis Mawrth.
Ond yn ôl Rob Wood, prif economegydd y DU yn Pantheon Macroeconomics, "blip" oedd y gostyngiad o fis i fis ym mhrisiau tai.
“Mae rhagolygon yn parhau i awgrymu y bydd prisiau tai yn dal i godi wrth i gyfraddau morgeisi ostwng yn raddol.
“Rydym yn parhau i ddisgwyl i brisiau tai godi 4% flwyddyn ar ôl blwyddyn yn 2024," meddai.