Newyddion S4C

Syr Karl Jenkins yn flaenllaw ar restr cerddoriaeth glasurol

02/04/2024
Syr Karl Jenkins

Y Cymro Syr Karl Jenkins yw un o'r cyfansoddwyr mwyaf poblogaidd yn arolwg blynyddol y Classic FM Hall Of Fame.

'Fe yw'r cyfansoddwr cyfredol sy'n ymddangos fwyaf ar y rhestr, o blith y rhai sy'n dod o wledydd y Deyrnas Unedig.  

Mae ganddo bedwar darn o waith yn y 300 Uchaf.  A The Armed Man: A Mass for Peace yw ei ddarn mwyaf poblogaidd yn cyrraedd Rhif 4.

Cafodd y darn ei berfformio gyntaf yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain ar 25 Ebrill 2000.

Ymhlith ei weithiau poblogaidd eraill roedd Palladio. 

Darn Rachmaninov, Concerto Piano Rhif. 2.  ddaeth i'r brig ar y rhestr o weithiau clasurol mwyaf poblogaidd Prydain, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cwblhaodd y cyfansoddwr o Rwsia y concerto yn 1901, ar ôl brwydro yn erbyn iselder, gan gyflwyno'r darn o waith i'w feddyg.  

Cafodd y  300 uchaf eu chwarae ar orsaf Classic FM dros benwythnos y Pasg, gyda'r cyflwynydd Dan Walker yn cyhoeddi'r Rhif Un ar noson Llun y Pasg.  

Mozart unwaith eto oedd y cyfansoddwr mwyaf poblogaidd ar sail nifer y gwahanol enwebiadau gydag 13 darn o waith yn cyrraedd y rhestr. Roedd Beethoven a Tchaikovsky yn dynn ar ei sodlau gydag 11 darn o waith.

Dywedodd Dan Walker bod angen llongyfarch Syr Karl Jenkins ar ei gamp.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.