Newyddion S4C

Cleifion ADHD yn galw ar feddygon teulu i rannu'r gofal gyda chlinigwyr preifat

ITV Cymru 02/04/2024
ITV Cymru

Mae cleifion ADHD yn honni eu bod yn cael trafferth symud o’r sector breifat i’r gwasanaeth iechyd wrth geisio cael triniaeth.

Am fod yna rhestrau aros hir mae nifer yn cael diagnosis ac yn dechrau eu triniaeth trwy dalu i weld meddygon preifat. Ond pan maent yn ceisio symud eu gofal at feddyg teulu o dan y gwasanaeth iechyd, mae'n ymddangos fod llawer yn cael eu gwrthod.

Mae Hannah Heath a Glenn Page wedi cael diagnosis ADHD trwy wasanaeth preifat. Ond maen nhw'n dweud fod eu meddygon teulu wedi gwrthod rhannu'r gofal drostyn nhw gyda’u clinigwyr preifat.

Mae ADHD yn gyflwr lle mae rhai pobol yn cael trafferth canolbwyntio, ac mae eraill yn medru teimlo'n aflonydd.  

Y gyfradd waethaf yng Nghymru

Cymru sydd gyda’r gyfradd waethaf yn y DU o feddygon teulu yn cytuno i rannu gofal cleifion ag ADHD gyda meddygon preifat, yn ôl ffigurau sydd wedi eu casglu ar gyfer ITV Cymru Wales.

Ar hyn o bryd, gall gymryd hyd at 10 mlynedd a hanner i gael asesiad ADHD drwy’r Gwasanaeth Iechyd, yn ôl sefydliad ADHD UK.

Ond unwaith y bydd unigolyn yn cael diagnosis preifat ac eisiau trosglwyddo'r gofal i'w feddyg teulu - sy'n golygu na fyddai'n rhaid iddo dalu am driniaeth mwyach - mae hyn yn aml yn cael ei wrthod.

Yng Nghymru, dim ond 19% o bobl a ymgeisiodd am ofal ar y cyd, lwyddodd i'w dderbyn, yn ôl arolwg gan ADHD UK ar gyfer ITV Cymru Wales.

Mae hynny o gymharu â 29% yn yr Alban, 38% yng Ngogledd Iwerddon a 58% yn Lloegr.

Mae elusennau ac unigolion yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau newydd ar gytundebau rhannu gofal ar gyfer ADHD.

'Trychineb lwyr'

Esboniodd Henry Shelford, cyfarwyddwr a phrif weithredwr ADHD UK, fod "y cais yn y bôn yn gofyn i'ch ADHD gael ei gydnabod".

Ond disgrifiodd y broses o gael un fel "trychineb lwyr" yng Nghymru.

Trwy dderbyn diagnosis a thriniaeth ar gyfer ei ADHD, mae'r fyfyrwraig Hannah Heath wedi llwyddo i barhau â'u hastudiaethau yn y brifysgol. 

Image
Llun: ITV Cymru
Llun: ITV Cymru

Cafodd cais Hannah Heath am ofal ar y cyd ei wrthod gan ei meddyg teulu. Dywedodd iddi gael gwybod bod ei diagnosis preifat yn "annigonol" ac y byddai angen i seiciatrydd y GIG roi diagnosis iddi.

Ceisiodd y fyfyrwraig drydedd flwyddyn o Brifysgol Abertawe gael diagnosis drwy'r GIG am y tro cyntaf.

Cafodd ei gweld gan nyrs iechyd meddwl, ac mae'n honni iddi ddweud wrthi nad ADHD oedd arni, gan nad oedd "yn ddrygionus yn yr ysgol".

Dywedodd fod hyn wedi siglo ei hyder. "Mewn un frawddeg, diystyrodd fy mhrofiad cyfan."

Yna defnyddiodd rywfaint o’i chyllid myfyriwr i gael diagnosis preifat. Roedd yn teimlo’n gryf bod ganddi ADHD a bod angen cymorth arni.

"Oherwydd nad oedd gen i lawer o arian, roedd yn rhaid i mi chwilio am yr un rhataf. Roeddwn i'n teimlo fy mod yn cael fy ngorfodi i fynd yn breifat."

Heb ddiagnosis gan y GIG, parhaodd Hannah i dalu’n breifat am feddyginiaeth, a gostiodd tua £100 y mis iddi.

'Neb yn gwrando' 

Talodd hefyd am apwyntiadau gyda nyrs a gyda seiciatrydd. 

Roedd Hannah a’i seiciatrydd preifat yn gobeithio y gallai cytundeb rhannu gofal fod yn opsiwn. Ond mae’n honni i’w meddyg teulu wrthod hynny, gan ddweud nad ydynt yn derbyn y math hynny o geisiadau.

Yn y pendraw, llwyddodd Hannah Heath i gael ei chyfeirio gan ei meddyg teulu at dîm iechyd meddwl y GIG.

“Oherwydd ei fod yn ddiagnosis cwbl newydd, roeddwn i mor bryderus ac o dan straen, yn ofni eu bod yn mynd i ddweud nad oedd gennyf ADHD.”

Mae'n dweud fod y diagnosis wedi digwydd yn ystod galwad ffôn bum munud, gan ddisgrifio'r holl brofiad fel "y fath wastraff ar fy amser ac adnoddau".

"Mae'n teimlo fel nad oes neb yn gwrando arnoch chi. Rydych chi'n gweiddi i mewn i wagle. Mae angen i bobl a staff gael eu hyfforddi'n fwy am iechyd meddwl a niwroamrywiaeth.

"Fe effeithiodd ar bob rhan o fy mywyd, a dweud y gwir. Pe byddai wedi bod ychydig yn symlach, byddai wedi bod o gymorth iddyn nhw a minnau hefyd."

 

Image
Llun: ITV Cymru
Llun: ITV Cymru

Roedd Glenn Page, o Gaerfyrddin, yn dioddef o salwch meddwl trwy gydol ei ugeiniau.

Mae'n dweud fod ei gais i rannu gofal wedi cael ei wrthod gan ddau feddyg teulu'r Gwasanaeth Iechyd. 

Fe aeth i weld ei feddyg teulu sawl gwaith a chafodd gyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn. Ond mae'n dweud "nad oedd unrhyw beth i'w weld yn ffitio nac yn gweithio mewn gwirionedd".

Y llynedd cafodd ddiagnosis ADHD preifat trwy ei waith. Ond roedd costau i'w talu, gan gynnwys ar gyfer meddyginiaeth.

Yn ôl Glenn, dywedodd ei feddyg teulu wrtho na fyddai'n derbyn cais rhannu gofal ar gyfer ADHD. Symudodd i ardal arall a rhoi cynnig ar feddyg teulu yno, a chafodd "union yr un profiad".

Roedd yr ail feddyg teulu wedi cynnig asesiad GIG iddo ond ei fod yn wynebu cyfnod hir o aros.

“Mae gen i ddiagnosis yn barod, ac rydw i nawr ar y rhestr aros honno.

“Mae’n codi’r cwestiwn faint o bobl sydd ar y rhestr aros am asesiad yng Nghymru mewn gwirionedd sydd eisoes â diagnosis yn ei le."

Mae adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan ADHD UK ym mis Hydref 2023 yn nodi fod un oedolyn yng Nghymru wedi gorfod aros wyth mlynedd a hanner am asesiad gan y GIG.

'Cymaint yn cael eu siomi' 

Dywedodd Henry Shelford o ADHD UK wrth ITV Cymru Wales fod derbyn cais rhannu gofal yng Nghymru yn "broblem gymhleth."

“Mae cymaint o feddygon teulu yn dweud na, mae’n gadael pobl sy’n cael trafferth aruthrol, heb y gefnogaeth honno,” meddai.

“Mae asesiad ADHD, boed yn cael ei wneud yn breifat neu gan y GIG, yr un peth ac maen nhw’n aml yn cael eu gwneud gan yr un bobl.

"Byddai'r broblem gyda rhannu gofal yn diflannu pe na bai gan y GIG y rhestrau aros hynod o hir hyn. Mae cymaint o bobl yn cael eu siomi."

"Mae Cymru yn amlwg yn cael gosod ei safonau ei hun, rhywbeth y mae'n ei wneud mor llwyddiannus mewn meysydd eraill. Mae hwn yn faes lle mae'n methu. Gallai newid hynny, a dylai newid hynny."

Image
Llun: ITV Cymru
Llun: ITV Cymru

Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, sy’n cynrychioli meddygon teulu ar draws y DU: “Yn anffodus, yn aml mae yna aros hir am ddiagnosis ADHD y GIG ac o ganlyniad rydyn ni’n deall pam bod rhai pobl yn dewis cael diagnosis sy'n cael ei ariannu'n breifat.

"Mewn cytundeb rhannu gofal, mae yna gyfrifoldebau i'r arbenigwr yn ogystal â'r meddyg teulu. Mae angen i arbenigwyr adolygu cleifion a'u meddyginiaeth a hefyd i wirio am gyflyrau iechyd meddwl eraill.

Dywedodd Cymdeithas Feddygol Y BMA sy'n cynrychioli meddygon teulu: “Dylai meddygon teulu wrthod cytundebau o'r fath os na allant yn rhesymol ymgymryd â rhannu gofal yn ddiogel. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd disgwyl i arbenigwyr ragnodi a darparu'r meddyginiaethau arbenigol hyn ar gyfer eu cleifion yn uniongyrchol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn ymwybodol bod gwasanaethau ADHD i oedolion "yn eu dyddiau cynnar ac ar gamau datblygu gwahanol ar draws Cymru".

Ychwanegodd y llefarydd ei bod yn "gweithio i wella'r gwasanaethau a ddarperir, mynediad i asesiad, cefnogaeth cyn ac ar ôl diagnosis".

Dywedodd hefyd fod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Llwybr ADHD i oedolion yn gweithio i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â meddyginiaeth, gan gynnwys trefniadau rhannu gofal gyda meddygon teulu.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.