Newyddion S4C

Rhybudd gan ddeintyddion am gostau uwch

01/04/2024

Rhybudd gan ddeintyddion am gostau uwch

Mae deintyddion yn rhybuddio y gallai costau uwch am driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru arwain at rai teuluoedd yn ystyried peidio defnyddio'r gwasanaeth.

O 1 Ebrill bydd apwyntiad gyda deintydd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn cynyddu o £14.70 i £20.

Yn ôl y Gymdeithas Ddeintyddol Brydeinig yng Nghymru, hwn yw'r cynnydd mwyaf wrth ystyried costau deintyddol yn hanes y Gwasanaeth Iechyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod cymorth ariannol ar gael i nifer, a bod cyllid ychwanegol gwerth £2m y flwyddyn wedi ei roi i gynorthwyo byrddau iechyd gyda heriau penodol.

Mae Huw Geraint Ifan yn ddeintydd yn Hwlffordd, ac mae'n pryderu y gallai'r costau uwch effeithio ar iechyd deintyddol y genhedlaeth nesaf. 

Wrth siarad ar raglen Newyddion S4C, dywedodd: "Mae o'n ofid bod lot o gleifion methu gweld deintydd o gwbl, boed hynny'n breifat neu ar y Gwasanaeth Iechyd. 

"Ma' hwnna'n ofid mawr efo ni o ran be' fydd iechyd ein plant ni fel, iechyd deintyddol ein plant ni. 

"Felly ma' hwnna'n ofid mawr efo ni," meddai. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.