Trafferthion mawr ar y rheilffyrdd ar ddydd Llun y Pasg
Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori bobl i beidio â theithio ar reilffyrdd yn y de fore Llun, oherwydd trafferthion mawr ar y cledrau.
Oherwydd problemau signalau a phŵer rhwng Penybont a Llanellli, dyw Trafnidiaeth Cymru ddim yn medru rhedeg gwasanaethau rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin, yn ogystal â gwasanaeth Calon Cymru rhwng Abertawe a'r Amwythig.
Mae'r trafferthion hefyd yn effeithio ar y gwasanaethau rhwng Maesteg a Bro Morgannwg.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae rhybudd i beidio â theithio mewn grym tan o leiaf 13.00 brynhawn Llun.
Bydd modd defnyddio tocynnau ar gyfer 1 Ebrill ar ddydd Mawrth 2 Ebrill, ac mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i deithio ddydd Mawrth os yn bosibl.
Yn ogystal, mae disgwyl y bydd gwasanaethau tua chyfeiriad yr Amwythig yn brysur tu hwnt hefyd, oherwydd digwyddiad yn gynharach, gydag amheuon fod ceblau wedi eu dwyn ar y cledrau.