Ail agor un o ffyrdd prysuraf Cymru ar ŵyl y banc wedi gwrthdrawiad
Mae un o ffyrdd prysuraf Cymru ar wyliau banc bellach wedi ail-agor, ar ôl iddi gael ei chau am wyth awr ddydd Llun.
Fe gafodd rhan o ffordd ddeuol yr A40 ei chau yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin yn dilyn gwrthdrawiad tua 4.45 fore Llun.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau bod y ffordd rhwng Sanclêr a Chaerfyrddin bellach wedi ail-agor i'r ddau gyfeiriad ar ôl cael ei chau wedi’r gwrthdrawiad tua chyfeiriad y dwyrain rhwng gorsaf betrol Valero a throad Llanllwch.
Yr A40 yw un o ffyrdd prysuraf Cymru dros gyfnodau gŵyl y banc, gydag ymwelwyr yn teithio arni o gyfeiriad cyrchfannau gwyliau poblogaidd Sir Benfro.
Roedd tagfeydd am filltiroedd ar brif ffyrdd i'r gorllewin o Sanclêr brynhawn Llun yn ogystal â ffyrdd bychain cyfagos. A phrin oedd yr opsiynau i osgoi ffordd yr A40 sy'n cysylltu Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys eisoes wedi annog pobl i osgoi’r ardal, gan hefyd rybuddio fod posiblrwydd o draffig trwm yn y cyffiniau am ei bod yn benwythnos y Pasg.
Roedd mynediad i faes y sioe yn bosibl o gyfeiriad Caerfyrddin, ac roedd plismyn ar gylchfan brysur B & Q yn y dref yn darparu cyngor i deithwyr.
Roedd Heddlu De Cymru hefyd wedi rhybuddio teithwyr i osgoi'r ardal.