Cynnydd mewn nifer o filiau cartrefi o ddydd Llun
Mae disgwyl i filiau cartrefi gynyddu wrth i gwmnïau gyflwyno eu codiadau prisiau blynyddol o ddydd Llun.
O 1 Ebrill ymlaen, fe fydd biliau cartrefi, gan gynnwys trethi cyngor, biliau dŵr a chytundebau ffôn symudol, yn cynyddu.
Fe fydd y bil treth y cyngor blynyddol cyfartalog yn codi £106 eleni.
Ar gyfer eiddo Band D, fe fydd y bil cyfartalog yn cynyddu 5% i £2,171, yn ôl ystadegau gan yr Adran Lefelu i Fyny, Tai a Chymunedau.
Yng Nghymru, fe fydd y cynnydd yn y bil treth y cyngor yn amrywio o sir i sir - o tua 5% yn Nhorfaen, i fwy nag 11% yn Sir Benfro.
Ond yn Yr Alban, mae’r SNP wedi addo rhewi treth y cyngor ar draws y wlad tan 2025.
Yn ogystal, fe fydd bil dŵr a charthffosiaeth cartrefi yng Nghymru a Lloegr yn codi 6%, sef rhwng £27 a £473 y flwyddyn.
Fe fydd y rhan fwyaf o ddarparwyr ffonau symudol a band eang yn cyflwyno codiadau pris o 7.9% hefyd.
Ond am y tro cyntaf mewn dwy flynedd, fe fydd y bil ynni blynyddol ar gyfer cartref sy'n defnyddio swm arferol o nwy a thrydan yn gostwng i £1,690.
Fe fydd y cap pris yma gan y rheoleiddiwr Ofgem yn golygu bod cwsmeriaid yn arbed £238 y flwyddyn, neu £20 y mis.
Cynnydd mewn costau eraill
Mae disgwyl i ffioedd a thaliadau amrywiol eraill godi ym mis Ebrill hefyd.
Fe fydd cost ffi’r drwydded deledu yn codi 6.6% o £159 i £169.50, ar ôl cael ei rhewi am ddwy flynedd.
Fe fydd treth cerbyd yn codi o £180 i tua £190 y flwyddyn i geir a gafodd eu cofrestru ar ôl 1 Ebrill 2017.
Ac fe fydd pris stampiau yn cynyddu 10c ar 2 Ebrill - stampiau dosbarth cyntaf i £1.35, a stampiau ail ddosbarth i 85c.
'Ffyrdd o dorri costau'
Dywedodd Natalie Hitchins, pennaeth cynnyrch a gwasanaethau cartref Which?: “O 1 Ebrill, bydd miliynau o bobl yn wynebu codiadau mewn prisiau, gan gynnwys biliau band eang, ffonau symudol, dŵr a threth y cyngor – a daw’r rhain ychydig wythnosau’n unig ar ôl i brisiau tocynnau trên gynyddu i lawer.
“Fodd bynnag, mae yna ffyrdd o dorri costau wrth i chi wynebu'r codiadau hyn mewn prisiau, a chadw eich biliau cartref mor isel â phosib.
“Mae ein hymchwil yn dangos y gall newid darparwr os ydych allan o gontract leihau band eang, talu biliau teledu a ffonau symudol hyd at £187. Mae hefyd yn werth gwirio a ydych chi’n gymwys i gael unrhyw ostyngiadau neu eithriadau treth y cyngor a gallech arbed arian drwy osod mesurydd dŵr.”