Rhybudd melyn am law trwm i'r de ddwyrain nos Sul
31/03/2024
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i rannau o dde ddwyrain Cymru.
Fe fydd y rhybudd mewn grym o 20:00 tan 23:45 ddydd Sul y Pasg.
Mae disgwyl i rai ardaloedd brofi cawodydd trymion gyda hyd at 30mm o law yn disgyn.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, gall gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gael eu heffeithio, gan gynnwys amseroedd teithio hirach.
Fe all llifogydd ar y ffyrdd olygu amseroedd teithio hirach hefyd.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir Fynwy
- Casnewydd
- Rhondda Cynon Taf
- Torfaen
- Bro Morgannwg