Y Brenin yn mynychu gwasanaeth Sul y Pasg yn Windsor
Mae’r Brenin a’r Frenhines wedi mynychu gwasanaeth Sul y Pasg yng Nghastell Windsor ddydd Sul.
Dyma ymddangosiad cyhoeddus mwyaf arwyddocaol y Brenin ers iddo gael diagnosis o ganser ym mis Chwefror.
Fe ymunodd y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla ag aelodau eraill o'r teulu brenhinol ar gyfer y gwasanaeth Pasg blynyddol yng Nghapel San Siôr.
Nid yw Tywysog a Thywysoges Cymru wedi mynychu'r gwasanaeth eleni.
Ychydig dros wythnos yn ôl fe gyhoeddodd y Dywysoges ei bod wedi dechrau triniaeth cemotherapi.
Fe gafodd canser y Dywysoges ei ddarganfod mewn profion a gafodd eu gwneud ar ôl iddi dderbyn triniaeth ar yr abdomen ym mis Ionawr.
Nid yw'r mathau o ganser sydd gan y Brenin a'r Dywysoges wedi cael eu datgelu ar hyn o bryd.
Llun: PA