Newyddion S4C

Athrawon yn ‘troi at alcohol a chyffuriau gwrth-iselder’ i ymdopi

31/03/2024
Dosbarth

Mae athrawon yn troi at alcohol a chyffuriau gwrth-iselder i ymdopi â phwysau gwaith, yn ôl arolwg newydd.

Mae’r arolwg o 11,754 o aelodau undeb yr athrawon NASUWT yn y DU rhwng mis Hydref a Rhagfyr 2023 yn awgrymu bod bron i chwarter o athrawon wedi cynyddu eu defnydd o alcohol yn y flwyddyn ddiwethaf oherwydd pwysau gwaith.

Dywedodd 12% oedd wedi ymateb eu bod wedi defnyddio neu gynyddu eu dibyniaeth ar gyffuriau gwrth-iselder.

Dywed Llywodraeth Cymru bod llesiant y gweithlu addysg yn "flaenoriaeth".

Yn ôl yr arolwg, mae’r mwyafrif (84%) o athrawon wedi profi mwy o straen yn gysylltiedig â gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 86% o athrawon hefyd yn credu bod eu swydd wedi effeithio’n andwyol ar eu hiechyd meddwl yn y 12 mis diwethaf.

Mae’r canfyddiadau wedi’u rhyddhau yn ystod cynhadledd flynyddol yr undeb yn Sir Efrog dros benwythnos y Pasg.

Cynhadledd

Bydd cynrychiolwyr yng nghynhadledd NASUWT yn trafod cynnig ddydd Sul sy'n galw am hyfforddiant atal hunanladdiad i bob arweinydd ysgol, a hyfforddiant iechyd meddwl i addysgwyr wedi'i ariannu'n llawn ym mhob ysgol a choleg.

Mae’r cynnig yn rhybuddio am “gynnydd mewn hunanladdiad, ymdrechion hunanladdiad a meddyliau hunanladdol o fewn y proffesiwn addysgu” ac mae’n dweud bod yr undeb yn pryderu y bydd cynnydd pellach.

Mae’n ychwanegu bod pwysau’r swydd yn arwain at “argyfwng iechyd meddwl” o fewn y proffesiwn a bod iechyd athrawon wedi cyrraedd pwynt o “argyfwng”.

Dywedodd Patrick Roach, ysgrifennydd cyffredinol yr NASUWT: “Ni ddylai neb bod ar fin dod â’u bywyd eu hunain i ben oherwydd eu swydd.

“Mae angen dull deublyg arnom o fynd i’r afael â’r epidemig o afiechyd meddwl ymhlith y proffesiwn addysgu, sydd ill dau yn mynd i’r afael â’r ffactorau sy’n sbarduno straen sy’n gysylltiedig â gwaith, tra hefyd yn rhoi mwy o systemau cymorth ar waith ar gyfer athrawon ac arweinwyr ysgol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae llesiant y gweithlu addysg yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwrando ar bryderon.

“Mae ein hymdrechion yn parhau i fynd i’r afael â llwyth gwaith staff a lleihau biwrocratiaeth. 

“Rydym hefyd yn darparu hanner miliwn o bunnoedd ychwanegol i ymestyn ymagwedd ysgol gyfan at gymorth iechyd meddwl a lles.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.