Ymgais am adolygiad barnwrol o bolisi trethu ail dai Gwynedd ar ben
Ni fydd grŵp oedd yn ymgyrchu yn erbyn penderfyniad Cyngor Gwynedd i ddyblu’r dreth gyngor i berchnogion ail gartrefi yn y sir yn parhau a'u hymgais dorfol am adolygiad barnwrol o’r polisi.
Ar wefan Crowd Justice, codwyd dros £8000 gan 86 o roddwyr mewn ymgais i herio penderfyniad Cyngor Gwynedd i ddyblu treth cyngor i berchnogion ail gartrefi'r sir.
Ond mewn neges i ddilynwyr sydd wedi ei weld gan raglen Newyddion S4C, dywedwyd bod “y risgiau posib o fynd i gyfraith yn fwy na’r siawns o ennill ac felly dydyn ni ddim yn bwriadu mynd a hyn ymhellach fel ymdrech dorfol.”
Dywed y trefnwyr eu bod nhw’n ymwybodol bod nifer o berchnogion ail gartrefi yn cymryd camau i osgoi talu’r premiwm, drwy ‘fflipio’ eu cartrefi i fod yn llety gwyliau i’w logi, drwy werthu tai, neu drwy nodi mai eu hail dai yw eu prif gartrefi.
Maent yn cyhuddo Cyngor Gwynedd o wahaniaethu anuniongyrchol gan fod mwyafrif y rheiny sydd yn cael eu heffeithio gan y polisi yn bobl o Loegr.
Serch hynny, yn ôl yr e-bost, 50-60% yw tebygolrwydd llwyddiant adolygiad barnwrol ac fe allai “costau cyfreithiol sylweddol” fod ynghlwm â dwyn achos cyfreithiol.
Am y rheswm hynny, bydd yr ymdrech dorfol ddim yn parhau, ond mae’r trefnwyr yn awgrymu y dylai unrhyw unigolion sydd yn anhapus gyda dyblu’r dreth gyngor i berchnogion ail gartrefi ysgrifennu at Gyngor Gwynedd yn y lle cyntaf cyn gwneud cais i Dribiwnlys Prisio Cymru i herio penderfyniad y cyngor.
Dywedodd y bargyfreithiwr sydd wedi bod yn cynghori’r grŵp wrth raglen Newyddion S4C na allai wneud sylw gan ei bod hi ddim yn glir a fydd yna achosion cyfreithiol ai peidio.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mae ymchwil diweddar yn dangos bod 60% o drigolion Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Ar yr un pryd, Gwynedd sydd â'r ganran uchaf o ail gartrefi yng Nghymru ac ymhlith yr uchaf o ran eiddo gwag tymor hir. Rhoddwyd pwerau penodol i'r Cyngor gan y Senedd i osod Premiwm o hyd at 100% ar y Dreth Gyngor mewn perthynas â'r ddau fath yma o eiddo.
“Mae'r Cyngor wedi ei gwneud hi'n flaenoriaeth i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon a helpu i sicrhau cyflenwad addas o dai fforddiadwy i bobl leol fyw yn eu cymunedau trwy ein Strategaeth Dai.
“Ar ôl trafodaeth ac ystyriaeth ofalus, ac ar ôl pwyso a mesur yr holl ffactorau perthnasol gan gynnwys canlyniadau ymarfer ymgynghori cyhoeddus a goblygiadau’r penderfyniad, penderfynodd cynghorwyr Gwynedd mewn cyfarfod llawn o’r Cyngor ar 4 Mawrth, gynyddu Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir o 50% i 100% ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22. Disgwylir i’r penderfyniad hwn arwain at £3 miliwn o dreth ychwanegol i’w glustnodi i wireddu Strategaeth Dai’r Cyngor".
Stori: Gwyn Loader, Prif Ohebydd rhaglen Newyddion S4C
Llun: JackPeasePhotography (drwy Flickr)