Newyddion S4C

Arolwg barn yn awgrymu chwalfa wleidyddol i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol

31/03/2024
etholiad

Mae arolwg barn newydd yn awgrymu fod y Ceidwadwyr yn wynebu chwalfa wleidyddol yn yr etholiad cyffredinol nesaf - gyda llai na 100 o aelodau seneddol yn cael eu hethol.

Defnyddiodd yr arolwg barn 15,000 o bobl i greu dadansoddiad o holl etholaethau'r DU, oedd yn awgrymu y byddai'r Ceidwadwyr yn colli pob sedd yng Nghymru a'r Alban ac yn cynrychioli dim ond 98 sedd yn Lloegr.

Rhoddodd yr arolwg Lafur ar 45% gydag 19 pwynt o fantais dros y Torïaid, sydd ar 26%.

Mae rhagolygon yn awgrymu y gallai plaid Syr Keir Starmer fod ar y trywydd iawn am fuddugoliaeth sylweddol, gan ennill 468 o seddi.

Image
Llywodraeth Deyrnas Unedig
Mae'r arolwg yn awgrymu bod sefyllfa Rishi Sunak yn ei sedd ei hun yn un fregus.

Mae'r arolwg barn hefyd yn awgrymu y byddai Plaid Genedlaethol yr Alban yn cipio 41 sedd, y Democratiaid Rhyddfrydol yn hawlio 22 sedd, a Phlaid Cymru yn ennill dwy sedd.

Yn 2019 roedd gan y Ceidwadwyr 365 o seddi, Llafur 203, yr SNP 48, y Democratiaid Rhyddfrydol 11 a Phlaid Cymru gyda phedair.

Awgrymodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan Survation ar gyfer grŵp ymgyrchu rhyngwladol Best for Britain, y gallai nifer o weinidogion y Cabinet, gan gynnwys darpar gystadleuwyr am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, golli eu seddi yn yr etholiad wrth i’r Torïaid wynebu eu canlyniad gwaethaf eto.

Mae'r canlyniadau'n awgrymu bod Rishi Sunak mewn sefyllfa fregus hefyd yn ei etholaeth newydd yn Richmond a Northallerton.

'Ystyried y dyfodol'

Yn y cyfamser mae Mr Sunak wedi dweud fod y Pasg yn gyfnod i "oedi ac ystyried y dyfodol" tra bod yr arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer wedi nodi ei fod yn gyfnod i fod yn "obeithiol am ddechreuadau newydd." 

Mae'r ddau arweinydd gwleidyddol wedi cyhoeddi negeseuon y Pasg, wythnosau yn unig cyn etholiadau ar 2 Mai a allai fod yn arwydd o'r hyn sydd i ddod yn yr Etholiad Cyffredinol.  

Bryd hynny, bydd etholiadau yn cael eu cynnal i ethol Comsiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, a bydd etholiadau lleol yn Lloegr yn ogystal ag etholiadau i ethol meiri.    

Yn ei neges, dywedodd Syr Keir, sy'n gobeithio bod yn Rhif 10 cyn diwedd y flwyddyn, y bydd bobol dros gyfnod y Pasg yn meddwl am "ein dyfodol, a sut y gall pethau newid er gwell."   

Ychwanegodd: “Mae ffydd yn bwysig iawn. A'r Pasg hwn, hoffwn ddiolch i'r gymuned Gristnogol yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, am eu haelioni a'u tosturi.”

Mae'r Prif  Weinidog Rishi Sunak wedi canmol gwaith Cristnogion mewn cymunedau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, gan ychwanegu y bydd bobol hefyd yn "meddwl am y rhai mewn poen a dioddefaint o amgylch y byd.”

Dywedodd ei fod yn diolch “ i'r eglwysi, elusennau, gwirfoddolwyr a'r rhai sy'n codi arian, sy'n gweithredu yn unol â'r gwerthoedd Cristnogol, gan roi cymorth i'r rhai sydd ei angen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.