Newyddion S4C

Trafferthion traffig yn Eryri wedi i geir barcio ar ffordd gul

30/03/2024
Traffig Pen y pass

Mae Heddlu'r Gogledd wedi gorfod rheoli llif traffig ar un o ffyrdd prysuraf Eryri fore dydd Sadwrn, wedi i geir barcio ar un ochr y ffordd.

Bu'n rhaid i swyddogion dywys cerbydau ar hyd un ochr i ffordd yr A4086 o Ben y Pass gan nad oedd modd defnyddio un ochr gan fod cerbydau wedi parcio yno.

Mae problemau tebyg wedi codi yn Eryri yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar gyfnodau prysur fel Gwyliau'r Banc.

Pen y Pass yw dechrau'r daith i gerddwyr ar gyfer Llwybrau’r Mwynwyr a Pyg sy’n arwain at gopa’r Wyddfa. 

Oherwydd poblogrwydd yr ardal, mae Pen y Pass yn gweithredu fel maes parcio lle mae angen archebu man parcio o flaen llaw yn unig yn ystod tymhorau’r gwanwyn a’r haf.

Yn dilyn problemau dros y blynyddoedd diwethaf mae ymwelwyr yn cael eu hannog i barcio yn Nant Peris neu Lanberis a defnyddio’r gwasanaeth bws gwennol lleol.

Mae adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod problemau traffig wedi codi ym mhentref Niwbwrch ar Ynys Môn ddydd Sadwrn hefyd, wrth i ymwelwyr heidio i'r ardal sydd yn agos i draeth Llanddwyn.

Llun: Nia George

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.