Newyddion S4C

‘Her ddifrifol’: Galw am ‘gefnogaeth frys' i Antur Waunfawr

Antur Waunfawr

Mae aelod o Senedd Cymru dros Arfon wedi galw am “gefnogaeth frys” i Antur Waunfawr yng Ngwynedd.

Mae’r ganolfan sy’n helpu pobl sydd ag anableddau dysgu wedi dweud ei bod yn wynebu “pwysau ariannol mawr”.

Mae prif weithredwr y ganolfan Ellen Thirsk wedi galw ar y lywodraeth i ddarparu “cymorth ariannol ychwanegol” ar frys ar ôl derbyn bil o £71,648 am Yswiriant Gwladol.

Dywedodd yr AS Siân Gwenllian wrth y Cyfarfod Llawn yn y Senedd ei bod yn pryderu bod nifer o ganolfannau eraill oedd yn helpu pobl fregus yn wynebu heriau ariannol tebyg.

“Mae Antur Waunfawr yn rhoi lle canolog i oedolion efo anableddau dysgu yn ein cymunedau ni a’r byd gwaith yn Arfon,” meddai.

“Mae’r antur yn wynebu sefyllfa ariannol heriol, ac angen talu £71,684 o gyfraniadau yswiriant gwladol. 

“Mae mudiadau tebyg yn wynebu heriau tebyg ar draws Cymru, efo pobl fregus yn wynebu toriadau i wasanaethau yn sgil hyn.”

‘Her ddifrifol’

Dywedodd Ellen Thirsk bod cost gynyddol Yswiriant Gwladol yn “rhoi pwysau ariannol sylweddol” ar sefydliadau trydydd sector fel Antur Waunfawr.

“Fel menter gymdeithasol arloesol yn ein maes, sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl ag ystod o anableddau dysgu, gan gynnwys anableddau dwys a chymhleth, rydym eisoes yn gweithredu o fewn ffiniau tynn iawn, ac mae bil ychwanegol o £71,684 y flwyddyn yn her ddifrifol i ni.

“Mae costau uwch fel hyn yn cyfyngu ar ein gallu i ddatblygu gwasanaethau hanfodol ac yn ein gorfodi i wneud toriadau nad ydym am eu gwneud.

“Rydym eisoes wedi lleihau ein costau yn sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn anghynaladwy o ystyried ein bod yn darparu gwasanaethau gofal gwerth hyd at £2.1 miliwn yng Ngwynedd.

“Rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol ar fyrder.”

‘Pwysau’

Wrth ymateb yn y Senedd dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt ei bod yn “falch iawn o'r cynnydd yn fy mhortffolio i” o ran y gefnogaeth i'r trydydd sector. 

“Yn amlwg, nid y Llywodraeth hon a wnaeth y penderfyniadau hyn, ond mae'r pwysau hynny sydd yn dod i'r amlwg yn fater yr ydym ni'n disgwyl clywed rhywfaint o ddiweddariad yn ei gylch i'r rhai sydd yn y sector cyhoeddus,” meddai.

“ Fe wnaethoch chi sôn am un ganolfan benodol, ac fe fyddwn i'n gobeithio y bydden nhw'n cael cyngor a chefnogaeth gan eu cyngor gwirfoddol lleol nhw, yr ydym ni'n ei gefnogi, ond gan gydnabod hefyd fod cynnydd wedi bod yn y lwfans cyflogaeth i gyflogwyr llai yn y trydydd sector, ac o ran niferoedd gweithwyr hefyd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.