
Mwy o bobl ifanc yn mentro i fyd busnes
Mae Sam Eastcott, sydd yn ei hugeiniau ac o Gaerffili yn gwerthu dillad ail law i gwsmeriaid ar draws y byd. Ar ôl cyfnod yn gweithio mewn swyddi naw tan bump, roedd hi’n barod am newid.
“Os ti’n edrych ar Tiktok, ti’n gweld faint o bobl sy’n gadael corporate jobs nhw i dechre’ busnes, mae ddim yn surprising”
“Fi’n credu gyda lle mae’r byd ar hyn o bryd a faint o arian mae popeth yn costio, beth yw’r pwynt aros mewn job ti ddim yn mwynhau”
“Ni gyda un bywyd, mae’n rili byr, you might as well do it while you’re young neu ti byth yn mynd i neud e”.

Un arall sydd wedi mynd ati i gychwyn busnes yn ddiweddar yw Megan Haf Davies, sy’n 22 oed ac yn byw yn Gaerdydd.
Yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’n dweud: “Se ni’n bendant ddim yn gallu fforddio bywyd stiwdant” heb yr arian mae’n ei wneud trwy’r busnes.
Yn cynnal partion penblwydd ar hyd a lled Cymru, mae’r ymateb gan gwsmeriaid yn dda.
“Ar hyn o bryd fi’n llawn dop o nawr tan y Pasg. Nes i agor y bookings lan yn y flwyddyn newydd ac o fewn dwy wythnos odd pob weekend wedi bookio”.
Yn ol ffigyrau diweddar gan Nation Enterprise, ma 62% o genhedlaeth Gen Z ym Mhrydain yn ystyried cychwyn busnes rhywbryd yn ystod y flwyddyn yma. Ymdopi gyda chynydd costau byw, a manteisio ar sgil neu ddiddordeb yw’r prif rhesymau dros wneud hynny.
Dyw Megan “ddim wedi synnu” bod cymaint o bobl ifanc eisiau mentro i fyd busnes.
“Ni’n camu at cymdeithas sy’n rhoi pwyslais ar y work life balance mwy nag oedd ein rhieni ni wedi gweld felly fi’n meddwl bod hynny yn rhoi tan ym moliau lot o bobl i ddechre busnes eu hun”
“Ti’n gallu rheoli amser dy hunan, ti yw bos dy hun, ma fe lot mwy hyblyg dyddie ma hefyd,
Yn ol yr arbennigwr busnes a mentergarwch, yr Athro Dylan Jones Evans: “Mae pobl ifanc rwan wedi rhyw fath o syrffedu ar weithio i bobl eraill ac wrth gwrs ma nhw’n gweld anibynniaeth yn beth pwysig yn eu bywydau, ac yn chwilio am balans rhwng eu bywyd a’u gwaith.”
“Y mwya’ o fusnesau newydd da ni’n eu cael, yn enwedig gan bobl ifanc sydd yn mynd i fewn i sectorau newydd, y mwya o dyfiant gawn ni yn yr economi yma yng Nghymru yn y tymor hir”.
Er i Megan gael cymorth i sefydlu ei busnes gan gynllun Llwyddo’n Lleol, mae Sam yn dweud fod sefydlu busnes llwyddiannus fel person ifanc yn heriol.
“Pan ti’n dechrau busnes mae shwt gymaint o bethau ti angen gwybod. Fi’n credu os ti’n 18, 19, 20 oed, mae’n rili anodd”
Yn ôl yr Athro Dylan Jones Evans, “mae ‘na raglen gan Llywodraeth Cymru, Syniadau Mawr Cymru, a ma’ hwnna yn canolwbyntio ar helpu pobl ifanc i gcyhwyn busnes. Y cwestiwn ydy, dim mater o’r rhaglenni, ond y ffaith nad ydy llawer o bobl ifanc yn gwybod be sydd ar gael iddyn nhw fel cymorth”.