Carcharu dyn o Gaernarfon am anelu gwn ffug at bobl ar y stryd
Mark Griffiths
Mae dyn o Gaernarfon wedi ei garcharu am bedair blynedd a hanner am anelu gwn ffug i gyfeiriad dau o bobl yn y dref y llynedd.
Fe blediodd Mark Griffiths, o Lon Helen, yn euog i fod â gwn ffug yn ei feddiant gyda'r bwriad o achosi pryder o drais.
Roedd Griffiths, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Mark Fango yn lleol, yn ardal Lon y Bryn o Gaernarfon ar 15 Medi 2024 pan anelodd ddryll ffug i gyfeiriad dyn arall a'i fam yn dilyn ffrae, gan adael y ddau yn poeni am eu bywydau.
Trodd Griffiths i ffwrdd gan gerdded i'w fflat.
Aeth heddlu arfog i'r ardal yn fuan wedyn a'i arestio.
Ar ddiwedd yr achos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, fe dderbyniodd Griffiths orchymyn am bum mlynedd yn ei atal rhag cysylltu gyda'r dioddefwyr.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Saran Henderson o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus nid yn unig i'r dioddefwyr yr oedd Griffiths wedi anelu'r gwn atyn nhw, ond i'r gymuned ehangach.
"Fe fydd yn cael effaith am amser hir ar drigolion Caernarfon, yn enwedig y plant oedd yn dyst i'r digwyddiad.
"Fe fyddwn yn erfyn ar unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y rhai sydd yn cario arfau, neu arfau ffug yn gyhoeddus, i gysylltu gyda'r heddlu neu gysylltu gyda Crimestoppers yn ddienw."