
Carcharu cyn-esgob am gam-drin plentyn yn rhywiol
Mae cyn-esgob gyda'r Eglwys yng Nghymru wedi cael ei garcharu am gamdrin bachgen yn rhywiol dros gyfnod o bum mlynedd.
Roedd Anthony Pierce, 84, yn offeiriad ar y pryd ac yn ddiweddarach roedd yn esgob Abertawe ac Aberhonddu rhwng 1999 a 2008.
Yn Llys y Goron Abertawe fe gafodd ddedfryd o bedair blynedd ac un mis yn y carchar.
Roedd eisoes wedi cyfaddef i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar blentyn gwrywaidd o dan 16 oed.

Roedd y troseddau'n dyddio o’r cyfnod rhwng 1985 a 1990 pan oedd Mr Pierce yn offeiriad plwyf yn West Cross, Abertawe.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru yn flaenorol bod yr honiadau wedi dod i’w sylw yn 2023 pan wnaeth y goroeswr ddatgelu gwybodaeth i Swyddog Diogelu'r Eglwys yng Nghymru.
Fe basiodd yr Eglwys yr honiadau at yr heddlu.
Dywedodd y barnwr Catherine Richards wrth Pierce fod plwyfolion yr eglwys “yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu” pan oedd yn ficer.
“Roedden nhw wedi ymddiried ynoch chi ar gam. Fe wnaethoch chi gam-drin un o blant eich plwyf. Roeddech chi wedi bod yn rhan o’i fywyd ers i chi ei fedyddio,” meddai.
“Byddai unrhyw riant neu oedolyn bryd hynny, yn ddealladwy, wedi ymddiried bod eu plentyn yn ddiogel gyda chi ac eich bod chi'n gweithredu yn unol â’ch gwerthoedd Cristnogol."
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sharon Gill-Lewis o Heddlu De Cymru ei bod yn "canmol dewrder y dioddefwr wrth adrodd am weithredoedd Anthony Pierce, a oedd yn gam allweddol wrth ddod ag ef o flaen ei well".