Bachgen pump oed wedi marw ar ôl cael ei ddarganfod yn Afon Tafwys
Mae bachgen pump oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl cael ei ddarganfod yn Afon Tafwys yn Llundain.
Cafodd apêl gan yr heddlu ei lansio i ddod o hyd i Daniel Alaby ddydd Gwener.
Roedd wedi mynd ar goll o'i gartref yn Thamesmead, de-ddwyrain Llundain.
Am 18.23 daeth swyddogion oedd yn chwilio am Daniel o hyd i blentyn yn yr afon, meddai Heddlu Llundain.
Fe wnaeth swyddogion yr heddlu weinyddu CPR cyn i barafeddygon gyrraedd.
Cafodd y plentyn ei gludo i’r ysbyty lle cyhoeddwyd yn ddiweddarach ei fod wedi marw, ychwanegodd y llu.
Mae teulu Daniel wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan yr heddlu.
Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw berson arall yn gysylltiedig, meddai Heddlu'r Met.