Apêl wedi i gar yrru i'r cyfeiriad anghywir ar yr M4 ger Abertawe
30/03/2024
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi digwyddiad yn ardal Abertawe yn ymwneud â cherbyd a oedd yn cael ei yrru mewn modd peryglus nos Wener.
Yn ôl y llu, cafodd y car Hyundai Tucson gwyn ei weld yn cael ei yrru'n beryglus yn y ddinas yn ogystal â thraffordd yr M4 rhwng cyffyrdd 47 a 48 rhwng Penllergaer a'r Hendy.
Rhwng 20.45 a 22.15, cafodd y car ei weld yn teithio'n gyflym iawn yn ogystal â gyrru i'r cyfeiriad anghywir ar draffordd yr M4.
Mae'r heddlu yn galw ar unrhyw un a welodd y cerbyd i gysylltu â nhw gan ddyfynnu'r rhif 2400102893.