Newyddion S4C

Galw ar Lywodraeth Cymru i benodi gweinidog dros dwristiaeth

30/03/2024
Traeth.jpeg

Mae cynrychiolwyr busnesau twristiaeth wedi ysgrifennu at Brif Weinidog newydd Cymru i ofyn os oes ganddo fwriad i benodi Gweinidog Twristiaeth neu Ddirprwy Weinidog ar gyfer y maes.

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn dadlau bod cynrychiolydd ar lefel y llywodraeth yn "hanfodol" i gynrychioli’r diwydiant pan fod polisïau'n cael eu dewis y tu allan i friff yr Economi.

Dywedodd Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru: “Hyd yn oed tra'n gweithio gyda Dirprwy Weinidogion blaenorol bu’n hynod o anodd cael Llywodraeth Cymru i weithredu ar fygythiadau i dwristiaeth Cymru, bygythiadau y mae’n honni eu bod yn eu deall. 

"Naill ai nid yw’n deall neu mae’n barod i dderbyn colli bywoliaeth pobl fel difrod i bolisïau eraill nad ydynt eto wedi dangos llawer o lwyddiant ar eu nodau datganedig.

“Heb hyrwyddwr yn y llywodraeth, mae gennym lai fyth o siawns o sicrhau adolygiad o effaith yr holl bolisïau hyn. Rydym yn dechrau gweld yr effaith honno ar economïau lleol gan fod busnesau twristiaeth a lletygarwch yn lleihau oriau agor neu’n cau’n gyfan gwbl. 

"Gwelwn yr effaith ar gymunedau wrth i waith yn y busnesau hynny a’u cadwyni cyflenwi ddechrau sychu, heb unrhyw gyfleoedd lleol amgen amlwg i ddefnyddio eu sgiliau."

Meini prawf

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid y meini prawf ar gyfer eiddo gwyliau ar osod er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes. 

O fis Ebrill 2023 mae angen i eiddo fod ar gael am 252 diwrnod a chael ei feddiannu gan westeion ar sail fasnachol am 182 diwrnod er mwyn bod yn gymwys ar gyfer hawlio cyfraddau trethi busnes.

Ychwanegodd Ms Davies: “Rydyn ni hefyd yn gwthio’n galed i’r polisi 182 diwrnod gael ei ollwng neu i eithriadau gael eu creu gan ei fod mor niweidiol. Cynigiwn ddadleuon dros eithriadau pellach i bremiymau’r dreth gyngor. 

"Fel y cyn Weinidog Economi, mae gan Vaughan Gething fel Prif Weinidog fewnwelediad eisoes i’r hyn sy’n digwydd i dwristiaeth a gofynnwn am sicrwydd y bydd yn dod â’r mewnwelediad hwnnw i’r amlwg ar draws y llywodraeth gyfan.”

'Cydbwysedd'

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ymwelwyr ac rydym am sicrhau ein bod yn gwireddu’r potensial hwnnw mewn ffordd sy’n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, busnesau, tirweddau ac ymwelwyr.

“Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant sydd ar gael i ni i gyflawni hyn, fel rhan o becyn cydgysylltiedig o atebion i set gymhleth o faterion.

 “Byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r diwydiant i helpu i lywio ein dull gweithredu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.