Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Cymru yn hyderus y gallant ‘gystadlu’ yn erbyn Lloegr

30/03/2024
Cymru 6G 2024 - Abbie Fleming (Huw Evans)

Bydd Cymru yn teithio i Fryste i wynebu cewri Lloegr yn eu hail gêm yn Chwe Gwlad y Menywod ddydd Sadwrn.

Ar ôl colli 18-20 yn y gêm agoriadol yn erbyn Yr Alban, mae prif hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi gwneud saith newid i’r tîm fydd yn cychwyn yn erbyn enillwyr y Gamp Lawn y llynedd.

Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto, yn Ashton Gate.

Daeth cyhoeddiad na fydd yr asgellwr Jasmine Joyce ar y cae, ar ôl iddi hi ddioddef anaf i linyn y gar. Lisa Neumann sydd yn cymryd ei lle ar yr asgell, gyda Carys Cox ar yr asgell arall.

Jenny Hesketh fydd yn safle’r cefnwr, gyda Kerin Lake yn ymuno â Hannah Jones yng nghanol cae.

Mae Gwenllian Pyrs yn cadw’i lle yn y rheng flaen tra bo’r bachwr Carys Phillips a’r prop Donna Rose yn cael cyfle i ddechrau’r gêm yr wythnos hon.

Georgia Evans fydd cyd-glo Abbie Fleming, tra bo Kate Williams yn cael y cyfle i gwblhau’r drindod yn y rheng ôl gyda Bethan Lewis a’r îs-gapten Alex Callender.

Enillodd Sian Jones ei chap cyntaf o’r fainc y Sadwrn diwethaf – ac mae hi’n cael ei chyfle cyntaf i ddechrau gornest yng nghrys coch ei gwlad yr wythnos hon. Lleucu George fydd yn safle’r maswr unwaith yn rhagor.

Ar ôl cychwyn yn erbyn yr Albanwyr, mae Sisilia Tuipulotu, Keira Bevan, Alisha Butchers, Nel Metcalfe a Natalia John yn dechrau ar y fainc.

'Cyfle'

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: "Ry’n ni’n gwybod yn iawn beth yw maint y dasg sy’n ein wynebu. 

“Mae gennym garfan gref erbyn hyn ac mae’r gêm ddydd Sadwrn yn cynnig y cyfle i’r chwaraewyr sydd wedi cael eu dewis, i ddangos beth y maen nhw’n gallu ei wneud.

"Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar ein perfformiad ni. Fe gawson ni adolygiad gonest iawn o’n hymdrechion y Sadwrn diwethaf ac mae’r chwaraewyr eu hunain wedi cydnabod yr agweddau sydd angen eu cryfhau y penwythnos hwn.

"Lloegr yw’r tîm sy’n gosod y safonau yng nghamp y menywod ac felly mae’n rhaid i ni fynd amdani.

"Mae llawer o’n tîm ni yn chwarae yng nghynghrair gorau’r byd gyda chlybiau yn Lloegr – ac felly ‘ry’n ni’n gwybod y gallwn gystadlu yn eu herbyn."

Tîm Cymru i wynebu Lloegr

15. Jenny Hesketh
14. Lisa Neumann
13. Hannah Jones (capten)
12. Kerin Lake
11. Carys Cox
10. Lleucu George
9. Sian Jones;
1 Gwenllian Pyrs
2. Carys Phillips
3. Donna Rose
4. Abbie Fleming
5. Georgia Evans
6. Kate Williams
7. Alex Callender (îs-gapten)
8. Bethan Lewis

Eilyddion: 
16. Molly Reardon
17. Abby Constable
18. Sisilia Tuipulotu
19. Natalia John
20. Alisha Butchers
21. Keira Bevan
22. Kayleigh Powell
23. Nel Metcalfe

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.