Newyddion S4C

Baneri Owain Glyndŵr a Dewi Sant yn denu cwynion mewn pentref yn Sir y Fflint

01/04/2024
Baneri Caergwrle

Mae angen "mwy o ymwybyddiaeth ar bobl" am hanes Cymru, yn ôl dynes o Sir y Fflint sydd wedi denu cwynion am godi baneri Owain Glyndŵr a Dewi Sant yn ei phentref.

Bob blwyddyn ers 2002, mae baner Owain Glyndŵr a baner y Ddraig Goch yn cael eu codi yn eu tro ar bolion ger y gofgolofn rhyfel ym mhentref Caergwrle.

Mae’r baneri yn cael eu codi gan gangen leol o Gymdeithas Owain Glyndŵr, sydd yn trefnu gorymdaith pob mis Chwefror i nodi ymweliad Glyndŵr â’r castell.

Yna i nodi Diwrnod Dewi Sant, mae gwirfoddolwr o’r grŵp, Heather Cunnah, yn cyfnewid y faner Glyndŵr am un y nawddsant, ar ddiwedd mis Chwefror.

Gweddill y flwyddyn, y Ddraig Goch a Baner yr Undeb oedd yn arfer yn chwifio ar y polion ger y gofgolofn.

Ond yn 2021, fe wnaeth Cyngor Cymuned yr Hôb dderbyn cwyn gan un o’r trigolion lleol, yn dweud ei fod yn “anaddas” i’r baneri gael eu codi ger cofgolofn y rhyfel. 

Mae Ms Cunnah yn dweud iddi dderbyn rhagor o gwynion y flwyddyn ganlynol.

Yn 2022, fe wnaeth y cyngor hefyd wrthod cais i dynnu'r polion bob blwyddyn ar ddiwedd cyfnod y Cofio ym mis Tachwedd, a'u hail-osod ar ddechrau'r mis Tachwedd canlynol.

Image
Cofadail Caergwrle
Mae gorymdaith yn cael ei chynnal yng Nghaergwrle bob blwyddyn i nodi ymweliad hanesyddol Glyndŵr â’r castell

O ganlyniad, fe wnaeth y cyngor fabwysiadu system ble mae pobl angen gwneud cais i godi baneri, gan nodi’r union gyfnod y bydden nhw’n aros i fyny.

Mae’n golygu nad yw’r Ddraig Goch na Baner yr Undeb yn chwifio drwy’r flwyddyn bellach, gyda baneri yn cael eu codi am gyfnodau penodol yn unig.

'Dim amarch'

Dywedodd Heather Cunnah, sydd bellach yn gweithio i'r Gwasanaeth Iechyd ar ôl treulio dwy flynedd yn yr Awyrlu Brenhinol, mai ar gyfer nodi hanes a diwylliant Cymru, ac nid am ‘resymau gwleidyddol’ yr oedd y baneri yn cael eu codi.

“Pan roedd gorymdaith ym mis Chwefror, roedden ni’n arfer newid y baneri i godi un Glyndŵr, ac wedyn newid nhw eto ar gyfer Dydd Dewi Sant," meddai Ms Cunnah.

Image
Y faner Owain Glyndŵr a'r Ddraig Goch yng Nghaergwrle
Baner Owain Glyndŵr a'r Ddraig Goch yng Nghaergwrle

"Ar ôl hynny, byddan ni’n newid nhw’n ôl i’r Jac yr Undeb a’r Ddraig Goch ryw bythefnos wedyn. Doedd byth rhaid gofyn, a doedd neb yn meindio.

“Ond ychydig o flynyddoedd yn ôl, fe wnaeth rywun gwyno yn dweud ei fod yn amharchus i’r meirw a’r bobl sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd, i ddod a Jac yr Undeb i lawr, achos bod o wrth ymyl y senotaff.

"Ond dwi’n gyn aelod o’r Awyrlu fy hun, a does 'na ddim amharch o gwbl ynddo. Mae o i gyd amdan ein hanes a’n diwylliant.”

Ar ôl codi baner Glyndŵr eleni, fe wnaeth Ms Cunnah gytuno i’w chyfnewid am faner Dewi Sant ar ran y cyngor, er mwyn ddathlu diwrnod Dewi Sant.

Wedi hynny, nid oedd Ms Cunnah wedi gallu gostwng y faner o fewn y cyfnod penodol, oherwydd "rhesymau personol."

Ond yn y cyfamser, roedd y cyngor wedi derbyn ymholiad arall gan aelod o’r cyhoedd, yn cwestiynu pam yr oedd y baneri yn dal i’w gweld.

'Anghofio am ein hanes'

Ychwanegodd Heather Cunnah: “Rydyn ni wedi dilyn polisi’r cyngor a chael caniatâd. Roedden nhw’n gefnogol iawn chwarae teg. Ond cefais i ddim amser i dynnu’r faner Dewi Sant i lawr ar y diwrnod – roedd o yna am hirach nag oedd o i fod. Ond doedd o ddim yn brifo neb.

“Mae'n gwneud fi’n drist i fod yn onest, achos tydi pobl ddim yn deall beth mae’r faner Dewi Sant yn edrych fel.

Image
Heather Cunnah yn chwifio'r faner Owain Glyndŵr
Heather Cunnah yn chwifio baner Owain Glyndŵr

"Ti’n gweld y faner Sant George bob man yn Lloegr, sydd yn grêt. Felly pam na allwn ni wneud yr un peth yng Nghymru efo baner ein nawddsant?

"Dwi wir yn meddwl os byddai’r bobl yn gwybod be oedd y faner yn cynrychioli, fydden nhw ddim yn cwyno.

“Mae’r eglwysi yn rhan o esgobaeth Dewi Sant hefyd. Mi oedd yr eglwys yn Yr Hôb yn arfer dangos y faner Dewi Sant, ond tydyn nhw ddim bellach. Mae’n rhywbeth mawr, dwi ddim yn deall pam nad ydy pob eglwys efo’r faner.

“Mae’n siom nad yw pobl yn ymwybodol o’r pethau yma, achos nawn ni golli nhw os nad ydyn ni’n gwthio iddyn nhw gael eu dangos.

"Mae angen fwy o ymwybyddiaeth ar bawb am ein hanes achos dwi ddim eisiau i ni golli’r pethau pwysig yma yn y dyfodol, ac i bobl anghofio am ein hanes.”

Dywedodd Cyngor Cymuned yr Hôb nad oedden nhw wedi derbyn cwyn am y baneri eleni, ond roedd ymholiad yn cwestiynu pam yr oeddynt yn dal i’w gweld.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: “Mae’r cyngor yn falch o’r baneri Cymreig ac yn croesawu pob cais. Nid ydym yn credu fod y system ceisiadau baneri wedi cael effaith ar y baneri sydd yn cael eu dangos.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.