Rhagflas o gemau nos Wener yn y Cymru Premier JD
Dyma ragflas o gemau nos Wener yn y Cymru Premier JD , a'r timau bron iawn hanner ffordd drwy’r tymor:
Llansawel (10fed) v Y Bala (7fed) | Nos Wener – 19:45
Mae Llansawel wedi llithro i lawr a tabl, a bellach dyw tîm Andy Dyer m’ond un pwynt uwchben safleoedd y cwymp ar ôl ennill un o’u 11 gêm gynghrair ddiwethaf (colli 7, cyfartal 3).
Bydd angen i’r Cochion ddechrau perfformio gartref os am osgoi tymor hir arall tua’r gwaelodion, gan iddyn nhw fethu ag ennill dim un o’u saith gêm gynghrair ar yr Hen Heol y tymor hwn, gan gipio dim ond dau bwynt allan o’r 21 posib.
I ychwanegu at y rhwstredigaeth, fe gollodd Llansawel o 1-0 yn erbyn Cambrian United o’r ail haen yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
Mae’r Bala’n dechrau’r penwythnos yn hafal ar bwyntiau gyda’r Barri yn y 6ed safle, a byddai’n glod enfawr i Steve Fisher pe bae’n gallu arwain y clwb i’r Chwech Uchaf yn ei dymor cyntaf wrth y llyw.
Sgorio goliau yw prif broblem Y Bala eleni, gan mae dim ond Llanelli (0.5 gôl y gêm) sydd wedi rhwydo llai na Hogiau’r Llyn yn y gynghrair y tymor hwn (0.7 gôl y gêm).
Dyw Llansawel erioed wedi curo’r Bala, ond mae’r ddwy ornest ddiwethaf rhwng y clybiau wedi gorffen yn gyfartal 2-2.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ͏➖✅❌❌❌
Y Bala: ❌❌❌➖✅
Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (8fed) | Nos Wener – 19:45
Mae’r Seintiau Newydd yn dechrau’r penwythnos naw pwynt yn glir ar frig y tabl ar ôl ennill 10 gêm gynghrair yn olynol, ac mae cewri Croesoswallt ar y trywydd cywir i sicrhau eu pumed pencampwriaeth o’r bron.
Er arwyddo sawl chwaraewr newydd dros yr haf, yr hen ben Jordan Williams sydd wedi serennu i’r Seintiau eleni, ac yn ei bumed tymor gyda’r clwb mae’r ymosodwr 32 mlwydd oed wedi rhwydo 14 o goliau cynghrair mewn 14 ymddangosiad, gyda chwech o rheiny yn dod yn ei dair gêm ddiwethaf yn y Cymru Premier JD.
Enillodd y Seintiau’r trebl domestig y tymor diwethaf, a dyna fydd y targed unwaith eto eleni ar ôl buddugoliaeth gyfforddus o 3-0 yn erbyn Caernarfon yn rownd wyth olaf Cwpan Nathaniel MG nos Fawrth.
Roedd Met Caerdydd wedi mynd ar rediad rhagorol o chwe gêm geb golli ym mis Hydref, ond daeth y cyfnod llwyddiannus i ben brynhawn Sadwrn wrth i’r myfyrwyr golli o 3-0 yn erbyn Cei Connah.
Mae Met Caerdydd wedi cyrraedd y Chwech Uchaf ym mhob un o’r tri tymor diwethaf, a gyda’r clwb ond un pwynt y tu ôl i’r Barri (6ed), bydd Ryan Jenkins yn benderfynol o gyrraedd y nod unwaith yn rhagor eleni.
Bydd criw Croesoswallt yn llawn hyder ar ôl ennill eu 12 gêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-0, 7-1, 6-2, 6-0, 5-0, 5-1 a 4-0 (i gyd ers 2023).
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅
Met Caerdydd: ͏✅✅➖✅❌