Charli XCX yn recordio cân gyda'r Cymro John Cale
Mae’r seren bop Charli XCX wedi awgrymu ei bod wedi cydweithio gyda'r Cymro John Cale o'r band The Velvet Underground gynt, a hynny ar gyfer cân i'r ffilm newydd Wuthering Heights.
Yn dilyn llwyddiant ei halbwm Brat, cyhoeddodd y gantores 33 oed ei bod hi’n ysgrifennu’r gân ar gyfer addasiad Emerald Fennell o’r nofel gan Emily Brontë.
Ddydd Iau, rhannodd glip 10 eiliad o'i chân newydd, House, a fydd yn cael ei rhyddhau ar 10 Tachwedd ac sy'n cynnwys cyd-sylfaenydd y band roc o'r 60au.
Wrth sôn am y broses o ysgrifennu'r gân, dywedodd y gantores ar ei chyfrif Instagram: "Ar ôl bod mor ddwfn yn fy albwm flaenorol roeddwn i’n gyffrous i ddianc i rywbeth hollol newydd, hollol wahanol.
"Pan fydda i'n meddwl am Wuthering Heights, rwy’n meddwl am lawer o bethau. Rwy’n meddwl am angerdd a phoen.
"Rwy’n meddwl am Loegr. Rwy’n meddwl am y Moors, rwy’n meddwl am y mwd a’r oerfel. Rwy’n meddwl am benderfyniad a dygnwch."
'Cain a chreulon'
Dywedodd Charli XCX ei bod wedi cael ei hysbrydoli gan raglen ddogfen Todd Haynes o 2021 am The Velvet Underground a’r ffordd y disgrifiodd Cale angen y band i gael caneuon a oedd yn "gain ac yn greulon".
"Wrth weithio ar gerddoriaeth ar gyfer y ffilm hon, roedd ‘cain a chreulon’ yn ymadrodd yr oeddwn yn dod yn ôl ato’n gyson," meddai.
"Pan ddaeth yr haf i ben roeddwn i’n dal i fyfyrio ar eiriau John. Felly penderfynais gysylltu ag o i gael ei farn ar y caneuon yr oedd ei ymadrodd wedi’u hysbrydoli mor ddwfn, ond hefyd i weld a fyddai eisiau cydweithio ar unrhyw rai.
"Fe wnaethon ni gysylltu, fe wnaethon ni siarad ar y ffôn a waw... ei lais, mor gain, mor greulon."
Fe aeth ymlaen i ddweud eu bod wedi dechrau trafod syniadau gyda'i gilydd.
"Fe nes i anfon caneuon ato ac fe wnaethon ni ddechrau siarad yn benodol am House. Fe wnaethon ni siarad am y syniad o gerdd," meddai.
"Recordiodd rywbeth a’i anfon ataf. Rhywbeth y gallai ond John ei wneud. Ac roedd… wel, fe wnaeth i mi grio."
Fe wnaeth y cerddor o Gymru gyd-sefydlu'r band roc The Velvet Underground gyda'r canwr-gyfansoddwr Lou Reed.
Roedd y band gwreiddiol hefyd yn cynnwys y gitarydd Sterling Morrison, y drymiwr Moe Tucker a’r canwr Nico.
Mae’r grŵp yn fwyaf adnabyddus am eu caneuon Sunday Morning, There She Goes Again, Venus In Furs a Heroin.
Ychwanegodd Charli XCX: "Rwy’n teimlo mor ffodus fy mod wedi gallu gweithio gyda John ar y gân hon.
"Rwyf wedi bod mor gyffrous i’w rhannu gyda chi gyd, yn eistedd yn dawel yn disgwyl - ac ddydd Llun, mae o i chi."