Dechrau'r gwaith o atgyweirio pont hanesyddol wedi 'difrod sylweddol'
Mae Cyngor Powys yn dweud y bydd y gwaith o atgyweirio pont hanesyddol yn y sir yn dechrau'n fuan.
Cafodd Pont Llandrinio ei difrodi'n sylweddol mewn gwrthdrawiad yr wythnos ddiwethaf.
Dywed y cyngor mai'r gobaith fydd dechrau ar y gwaith ar 17 Tachwedd, gyda disgwyl i'r bont ailagor erbyn canol mis Rhagfyr.
Ers y digwyddiad, a achosodd "ddifrod strwythurol sylweddol" i'r groesfan hanesyddol, mae timau'r cyngor wedi gweithio gyda chontractwyr i asesu'r difrod a chynllunio'r gwaith atgyweirio angenrheidiol.
Y flaenoriaeth yw adfer y bont yn ddiogel ac yn effeithlon, ond ar yr un pryd cadw ei gwerth treftadaeth medd y cyngor.
Bydd y gwaith yn cynnwys adfer gwaith cerrig gwreiddiol o'r afon, ac atgyweirio strwythurol llawn gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau traddodiadol.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym yn deall pa mor bwysig yw Pont Llandrinio i'r gymuned a chysylltiadau lleol.
"Mae ein timau'n gweithio'n galed i ddarparu atgyweiriad diogel a pharhaol cyn gynted â phosibl. Byddwn yn gwneud ein gorau glas i beidio a tharfu’n ormodol, ond ar yr un pryd cadw integriti’r strwythur hanesyddol hwn.
“Hoffwn ddiolch i breswylwyr a defnyddwyr y ffordd am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus yn ystod y cyfnod hwn."