Cais i enwi darn o dir er cof am un o feibion amlycaf Y Barri
Mae cais wedi ei wneud i enwi llain o dir yn nhref Y Barri ym Mro Morgannwg ar ôl un o feibion amlycaf y dref.
Roedd adroddiadau'r newyddiadurwr Gareth Jones o Wcráin yn ystod 30au'r ganrif ddiwethaf, pan ddatgelodd newyn yn y wlad - yr Holodomor - oedd yn gyfrifol am ladd miliynau, a thwf y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen, yn allweddol bwysig ar y pryd.
Mae cynghorwyr ar Gyngor Tref y Barri wedi cefnogi cais i nodi cyfraniad Gareth Jones i'r byd, gan nodi bod sawl man yn Wcráin wedi eu henwi ar ei ôl, ond doedd unman yn ei dref enedigol yn gwneud hynny.
Yn enedigol o’r Barri, roedd Gareth Jones yn ieithydd medrus, ac ar ôl graddio o Aberystwyth a Chaergrawnt, bu’n gweithio fel cynghorydd materion tramor i David Lloyd George, fel ymgynghorydd i Ivy Lee Associates yn Efrog Newydd, ac fel newyddiadurwr.
Fe weithiodd i'r Times, y Western Mail, Daily Express, y New York Evening Post a'r Guardian.
Fe fydd cais Cyngor Tref Y Barri yn cael ei gyfeirio at Gyngor Bro Morgannwg er mwyn ei drafod.