Gwesty cwarantîn yn ‘waeth na bod mewn carchar’ medd dyn o Wynedd
Gwesty cwarantîn yn ‘waeth na bod mewn carchar’ medd dyn o Wynedd
Mae dyn o Wynedd wedi disgrifio’r amodau mewn gwesty cwarantîn y mae’n aros ynddo fel rhai “ofnadwy”.
Roedd yn rhaid i Rhodri Dafydd o’r Felinheli dalu £1,750 am 10 noson yn y gwesty yn ardal Solihull, Birmingham, ar ôl teithio adref o Fecsico gan lanio yn Istanbul, Twrci ar y ffordd.
Wrth siarad â Newyddion S4C, disgrifiodd Mr Dafydd y profiad yn “waeth na bod mewn carchar”.
Dechreuodd ei gyfnod cwarantîn ar 21 Mehefin, ar ôl cyrraedd maes awyr Birmingham o Dwrci.
“Roeddwn ni wedi bod yn teithio yn Mecsico am rhyw bythefnos cyn penderfynu teithio yn ôl i Brydain,” meddai.
“Roedd y stopover yn maes awyren Istanbul. Roeddwn ni yna am lai na tair awr.
“Y cynllun gwreiddiol oedd i deithio o Istanbul i Heathrow yn Llundain, ond ges i fy ngwrthod cyn mynd ar yr awyren gan fy mod i heb drefnu lle i aros mewn gwesty cwarantîn unwaith roeddwn ni’n cyrraedd Llundain.”
O ganlyniad, roedd yn rhaid iddo archebu ystafell mewn gwesty penodol, a gyda rhan fwyaf o’r gwestai yn Llundain yn llawn, fe benderfynodd archebu lle mewn gwesty cwarantîn yn Birmingham.
“Roedd yn rhaid i mi dalu £200 er mwyn newid y siwrna, a £1,750 am le yn y gwesty cwarantîn,” eglurodd.
“Er fy mod i wedi derbyn dau ddos o’r brechlyn yn erbyn Covid-19, ac wedi cymryd y PCR test tra roeddwn ni’n Istanbul.”
Yn ôl Rhodri Dafydd, mae ansawdd y bwyd, y gwasanaeth a’r ystafell yn y gwesty yn “warthus”.
Erbyn hyn, mae o ar ei drydydd diwrnod o hunan-ynysu.
“Does dim air conditioning yn yr ystafell ac mae hi reit llychlyd yma,” ychwanegodd.
“Nes i ofyn am dabledi ar gyfer alergedd ond doedd y dderbynfa methu helpu fi.
“Mae’r swyddogion diogelwch yn gwarchod y coridorau o hyd, a noson o’r blaen, oedden nhw’n sgwrsio drwy’r nos – prin oeddwn ni gallu cysgu.
“Maen nhw’n caniatáu i ni fynd am awyr iach yn y maes parcio am 20 munud y dydd.
Safon y bwyd yn ‘warthus’
Dywedodd Rhodri Dafydd wrth Newyddion S4C: “Mae’r bwyd yn warthus a does ‘na ddim math o faeth yn y prydiau. Diwrnod o blaen, nes i godi am 05:00 gan fy mod i’n llwgu gymaint. Bu’n rhaid i mi archebu bwyd o gwmni tu allan i’r gwesty.”
Ychwanegodd: “Dwi’n delio gyda’r sefyllfa’n iawn – dwi’n deall bod angen hunan-ynysu yn y sefyllfa yma.
“Ond mae hi’n reit rwystredig ein bod ni wedi talu £1,750 am ddau brawf Covid, ystafell syml a bwyd ofnadwy.
“Sgen i ddim syniad lle mae’r holl arian ‘ma’n mynd.”
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ymateb.
Lluniau: Rhodri Dafydd