'Ni all gwleidyddion ddatrys ein holl broblemau': Neges Sul y Pasg Archesgob Cymru
'Ni all gwleidyddion ddatrys ein holl broblemau': Neges Sul y Pasg Archesgob Cymru
Yn ei neges ar Sul y Pasg, mae Archesgob Cymru yn rhybuddio na all gwleidyddion ar eu pen eu hunain "ddatrys yr holl broblemau sy’n wynebu ein gwlad".
Gan ganmol “ymdrechion rhyfeddol arwyr di-glod”, dywedodd y Parchedicaf Andrew John mai cariad anhunanol sy’n “trawsnewid cymunedau a’n bywydau”.
Dywedodd hefyd ei fod y dymuno gweld "dyfodol llawn cyfiawnder a thegwch" y tu hwnt i'r rhyfel "erchyll" yn Gaza.
“Mae gan Gymru nawr Brif Weinidog newydd. Mae Mr Vaughan Gething yn gyfrifol am arwain y llywodraeth yng Nghymru a siarad dros y Blaid Lafur ar faterion o ddiddordeb cenedlaethol.
“Wrth gwrs, bydd yr heriau a wynebwn yng Nghymru angen mwy nag ymdrechion un person pa bynnag mor ymroddedig a chadarn yw eu bwriadau.
“Gydag etholiad cyffredinol yn debygol eleni ni ddylai’r ffocws ar San Steffan bylu’r angen am drawsnewid o fewn ein holl gymunedau yng Nghymru."
Gwirfoddoli
Ychwanegodd: “Cefais fy nharo gan ymdrechion rhyfeddol cynifer eleni sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
“Er enghraifft, rwyf wedi dod i adnabod y rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer Parkrun fel David, sydd yn ei wythdegau, sydd yno beth bynnag y tywydd fel y gall rhedwyr gymryd rhan yn ddiogel.
“Mae’r arwyr di-glod hyn y mae eu gwaith tawel a chyson yn y cefndir yn aml yn mynd heb ei gydnabod yn effeithio ar fywydau’r hen a’r ifanc.
“Caf hefyd fy nharo hyd yn oed yn fwy gan waith Cristnogion yn ein heglwysi a chapeli sy’n rhannu ffydd flaengar sy’n gyfoethog ac egnïol.
“Ychydig fyddai yn disgwyl i’r Prif Weinidog newydd ddatrys ein holl broblemau. Yn wir ymddengys i fi fod y syniad fod newid yn digwydd yn bennaf oherwydd penderfyniadau gwleidyddol yn anghywir.
“Yr hyn sy’n ein codi uwchben meddylfryd byw yn llwyr i ni’n hunain yw profiad o gariad anhunanol.
“Felly mae neges y Pasg yn gofyn i ni i fyw ein bywydau mewn modd sydd yn wahanol, lle bod pobl arall yn sefyll reit yn y canol.”
Ar Sul y Pasg, 31 Mawrth, bydd yr Archesgob yn pregethu yn Eglwys Sant Pedr, Pwllheli am 11am.