Newyddion S4C

Gorchymyn Israel i 'ganiatáu bwyd a chymorth meddygol i Gaza'

29/03/2024
plentyn gaza.png

Mae prif lys y Cenhedloedd Unedig wedi gorchymyn Israel i sicrhau y gall bwyd a chymorth meddygol gyrraedd Gaza er mwyn osgoi newyn.

Mewn penderfyniad unfrydol, dywedodd y Llys Cyfiawnder Rhyngwladol (ICJ) fod angen i Israel weithredu "heb oedi" i ganiatáu "darpariaeth o wasanaethau sylfaenol a chymorth dyngarol sydd eu hangen ar frys".

Mae Israel wedi dweud fod yr honiadau ei fod yn atal cymorth yn "gwbl ddi-sail".

Wrth ymateb i'r gorchymyn llys, dywedodd gweinidog tramor y wlad ei fod yn parhau i "annog camau newydd ac i ehangu ar rai presennol" er mwyn caniatáu llif parhaus o gymorth i Gaza "ar y tir, yn yr awyr a'r môr".

Dywedodd mai Hamas oedd ar fai am y sefyllfa yn Gaza ac am ddechrau'r rhyfel.

Ychwanegodd y llys fod y boblogaeth o 2.2 miliwn o bobl yn Gaza yn "wynebu lefelau uchel o ansefydlogrwydd am fwyd" ac y byddai newyn yn taro'r gogledd cyn diwedd mis Mai.

Mae'r cymorth sydd eu hangen fwyaf yn cynnwys bwyd, dŵr, trydan, tanwydd, dillad yn ogystal â chyflenwadau meddygol, yn ôl y llys.

Dechreuodd y rhyfel, ar 7 Hydref, wedi i Hamas, sy'n llywodraethu yn Gaza, ymosod ar Israel, gan ladd 1,200 o bobl, yn ôl yr Israeliaid. 

Cafodd 254 o bobl eu cipio a'u cadw'n wystlon yn Gaza wedi'r ymosodiad hwnnw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.