Y Seintiau Newydd a Met Caerdydd yn brwydro am le yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD
Parc Latham yn y Drenewydd fydd y lleoliad wrth i Met Caerdydd herio'r Seintiau Newydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD ddydd Sadwrn.
Efallai bod breuddwyd y quadruple ar ben, ond mae’r trebl yn dal yn y fantol i’r Seintiau Newydd fydd yn gobeithio camu i rownd derfynol Cwpan Cymru ddydd Sadwrn.
Bydd y golled o 2-1 yn erbyn Aidrieonians yn ergyd mawr i dîm Craig Harrison oedd heb golli mewn 41 o gemau (ennill 39, cyfartal 2) ers y golled ar Awst y 1af yn erbyn Swift Hesperange o Lwcsembwrg.
Ond o ran clybiau Cymru, does neb wedi gallu curo’r Seintiau Newydd ers i Met Caerdydd wneud hynny mewn gêm gynghrair ym mis Chwefror llynedd (Met 3-2 YSN).
Ers y gêm honno, mae’r clybiau wedi cyfarfod bedair gwaith a teg dweud bod y Seintiau wedi chwalu’r myfyrwyr ym mhob un o’r gemau rheiny (YSN 7-1 Met, Met 1-5 YSN, YSN 8-0 Met, YSN 4-0 Met).
Mae’r Seintiau wedi sgorio oleiaf pedair gôl mewn chwech o’u saith gêm flaenorol yn erbyn Met Caerdydd, ac mae prif sgoriwr y gynghrair, Brad Young wedi rhwydo wyth gôl mewn tair gêm yn erbyn Met Caerdydd y tymor hwn, yn cynnwys hatric yn y ddwy gêm ddiwethaf.
Dyma’r 25ain tro i’r clybiau yma gyfarfod mewn gêm gystadleuol, ond dyw’r timau erioed wedi mynd benben yng Nghwpan Cymru yn y gorffennol.
Cyrhaeddodd Met Caerdydd y rownd gynderfynol ddwywaith yn olynol yn 2019 a 2020, ond ers ffurfio’r clwb presennol yn 2000, dyw’r myfyrwyr erioed wedi cyrraedd y ffeinal.
Ers colli yn erbyn Cei Connah yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru 2017/18, mae’r Seintiau Newydd wedi ennill 24 gêm yn olynol yn y gystadleuaeth gan godi’r gwpan deirgwaith yn olynol.
Y tymor diwethaf fe enillodd y Seintiau o 6-0 yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Y Bala, sef y fuddugoliaeth fwyaf mewn ffeinal ers 1931.
Dyna oedd y 9fed tro i’r clwb o Groesoswallt gael eu henw ar y cwpan, a bellach dim ond Wrecsam (23), Caerdydd (22) ac Abertawe (10) sydd â record well yn y gystadleuaeth.
Mae’r Seintiau Newydd wedi cyrraedd saith o’r wyth rownd derfynol ddiwethaf, gan ennill chwech o’r rheiny yn erbyn chwe clwb gwahanol (Aberystwyth, Y Drenewydd, Airbus UK, Cei Connah, Pen-y-bont, Y Bala).
Mae’r Seintiau wedi llwyddo i osgoi clybiau’r uwch gynghrair yn y gwpan hyd yma gan sgorio 20 ac ildio dim ond un gôl mewn pedair gêm, tra bod Met Caerdydd wedi ennill gemau agos yn erbyn Hwlffordd a Bae Colwyn yn y ddwy rownd flaenorol.
Rownd Wyth Olaf: Met Caerdydd 3-2 Bae Colwyn, Llansawel 1-5 YSN
4edd Rownd: Hwlffordd 1-1(cos) Met Caerdydd, Caerfyrddin 0-3 YSN
3edd Rownd: Met Caerdydd 2-1 Yr Wyddgrug, YSN 7-0 Adar Gleision Trethomas
2il Rownd: Met Caerdydd 4-0 Cwmbrân, Rhuthun 0-5 YSN
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos i’w weld ar S4C nos Lun.