Newyddion S4C

Cipolwg ar gemau Cymru Premier JD ddydd Gwener

Sgorio 29/03/2024
Bae Colwyn v Cei Connah

Bydd pedwar gêm yn cael eu chwarae yn y Cymru Premier JD ar Ddydd Gwener y Groglith ac mae lot fawr yn y fantol i dimau'r chwe  isaf.

Mae'n ddiwrnod tyngedfennol i Fae Colwyn ac Aberystwyth, wrth i'r ddau dîm isaf fynd benben a'i gilydd mewn gêm all ddylanwadu'n fawr ar bwy fydd yn wynebu'r cwymp o'r gynghrair.

 CHWECH UCHAF

Cei Connah (2il) v Y Drenewydd (6ed) | Dydd Gwener – 12:30

Mae Cei Connah wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru JD am y pedwerydd tro’n eu hanes ar ôl curo’r Bala o gôl i ddim yn Llandudno nos Sadwrn.

Aron Williams oedd yr arwr annisgwyl i’r Nomadiaid yn sgorio unig gôl y gêm wedi 89 munud gan rwydo ei gôl gyntaf i’r clwb ers Hydref 2021.

Bydd Cei Connah yn herio un ai Met Caerdydd neu’r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol ar ddydd Sul, 28 Ebrill yn Rodney Parade, Casnewydd.

Cyn hynny, bydd Neil Gibson yn gobeithio y gall ei garfan gadarnhau eu lle’n Ewrop drwy orffen yn ail yn y tabl, ond mae gemau caled o’u blaenau ac mae’r Bala’n barod i fanteisio ar unrhyw fagliad cyn diwedd y tymor.

Chwe phwynt sydd rhwng Cei Connah (2il) a’r Bala (3ydd) gyda phedair gêm yn weddill, ac ar bapur, hon yw gêm hawsaf y Nomadiaid felly bydd dim llai na thriphwynt yn plesio Neil Gibson ddydd Gwener.

Mae Cei Connah wedi colli eu tair gêm gynghrair ddiwethaf, ac yn benderfynol o beidio colli pedair yn olynol am y tro cyntaf ers 2013.

Ar ôl colli naw o’u 10 gêm ddiwethaf, mae safle awtomatig yn Ewrop wedi llithro o afael Y Drenewydd, ond mi fyddan nhw’n awyddus i wella safon eu perfformiadau cyn y gemau ail gyfle hollbwysig ar ddiwedd y tymor.

Mae Cei Connah wedi curo’r Drenewydd deirgwaith yn barod y tymor hwn gyda Jordan Davies yn sgorio pedair gôl, a’r Nomadiaid fydd y ffefrynnau ar Gae y Castell unwaith eto ar ôl colli dim ond un o’u 19 gêm flaenorol yn erbyn y Robiniaid (ennill 14, cyfartal 4).

Record cynghrair diweddar: 

Cei Connah: ❌❌❌✅✅

Y Drenewydd: ❌✅❌❌❌

CHWECH ISAF

Bae Colwyn (12fed) v Aberystwyth (11eg) | Dydd Gwener – 12:30 (Arlein)

Bydd Bae Colwyn ac Aberystwyth yn brwydro am eu bywydau ar Ffordd Llanelian ddydd Gwener yng ngêm bwysica’r tymor i’r ddau glwb.

Bae Colwyn (19pt) sydd ar waelod y tabl, wedi chwarae un gêm yn fwy nac Aberystwyth (20pt) a Phontypridd (21pt), ac felly mae’n hanfodol bod tîm Steve Evans yn osgoi colled os am obaith gwirioneddol o osgoi’r cwymp eleni.

Does neb wedi colli mwy, ennill llai, nac ildio mwy o goliau na Bae Colwyn y tymor hwn, ac ar ôl dioddef crasfa o 5-0 ym Mhen-y-bont yn eu gêm ddiwethaf, mae pethau’n edrych yn ddu ar y Gwylanod.

Mae Aberystwyth yn un o’r ddau glwb sydd wedi bod yn holl-bresennol yn Uwch Gynghrair Cymru ers ffurfio’r gynghrair yn 1992 (gyda’r Drenewydd), ac ar ôl osgoi’r cwymp o drwch blewyn ar y penwythnos ola’r tymor diwethaf, mae’r Gwyrdd a’r Duon yn chwarae gyda thân eto eleni.

Aberystwyth sydd wedi sgorio’r nifer lleiaf o goliauyn y gynghrair y tymor hwn (21 gôl mewn 27 gêm), a dyw tîm Anthony Williams heb ennill oddi cartref ers mis Tachwedd.

Bae Colwyn sydd wedi cal y gorau o bethau yn y gemau blaenorol rhwng y clybiau’r tymor yma, yn ennill dwy o’r tair gornest hyd yma.

Mae cur pen ychwanegol gan y Gwyrdd a’r Duon gan eu bod yn wynebu cosb gan y gynghrair wedi i’w gêm yn erbyn Pontypridd gael ei gohirio fis yma am i Aberystwyth geisio chwarae’r gêm heb ffisiotherapydd cymwys ar y fainc.

Mae canlyniad yr achos yn siŵr o ddylanwadu’r sefyllfa ar waelod y tabl, ond bydd angen i garfan Aberystwyth geisio anwybyddu hynny am y tro a cheisio sicrhau nad yw’r clwb yn syrthio o’r gynghrair am y tro cyntaf erioed.

Record cynghrair diweddar: 

Bae Colwyn: ❌➖➖❌✅

Aberystwyth: ͏❌➖➖❌✅

Y Barri (9fed) v Pen-y-bont (8fed) | Dydd Gwener – 12:30

Gyda phedair yn gêm yn weddill dyw Pen-y-bont ond un pwynt y tu ôl i Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle a lle yn y gemau ail gyfle.

Mae Pen-y-bont yn sicr yn talu’r pris am eu camgymeriadau gweinyddol oddi ar y cae sydd wedi arwain at chwe phwynt o gosb, gan y byddai tîm Rhys Griffiths bum pwynt yn glir yn y 7fed safle oni bai am y gosb hynny.

Mae’r Barri wedi cael pum gêm gyfartal yn olynol, ac yn dal heb ennill gêm ers yr hollt, ond ar y llaw arall, dyw’r Dreigiau ond wedi colli unwaith mewn naw gêm (0-3 vs Pontypridd).

Mae’r ddwy gêm ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal hefyd, ond mae Pen-y-bont wedi bod yn gryf oddi cartref yn ddiweddar gan ennill tair yn olynol (vs Met Caerdydd, Bae Colwyn a Hwlffordd).

Sgoriodd blaenwr Pen-y-bont, Keyon Reffell yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Y Barri, gyda’i unig ddwy gôl arall y tymor yma’n dod yn erbyn Bae Colwyn.

Record cynghrair diweddar: 

Y Barri: ➖➖➖➖➖

Pen-y-bont: ✅✅❌➖➖

Pontypridd (10fed) v Hwlffordd (7fed) | Dydd Gwener – 12:30

Er gwaetha’r naw pwynt o gosb mae Pontypridd yn benderfynol o osgoi’r cwymp eleni, ac mae tîm Gavin Allen yn dechrau’r penwythnos un pwynt uwchben safleoedd y cwymp gyda gêm wrth gefn.

Mae Pontypridd ar rediad o chwe gêm heb golli (ennill 4, cyfartal 2) a dyw’r clwb heb golli gêm ers i Gavin Allen gymryd yr awenau ym mis Chwefror.

Roedd hi’n stori debyg i Bontypridd y tymor diwethaf hefyd gyda’r clwb yn colli dim ond unwaith wedi’r hollt, a daeth y golled honno yn erbyn Hwlffordd ym mis Ebrill.

Ond ers y golled honno, dyw Pontypridd heb golli mewn tair gêm yn erbyn Hwlffordd (ennill 1, cyfartal 2) gan ildio dim ond un gôl dros gyfnod o dair gêm.

Hwlffordd sy’n parhau i arwain y ffordd yn y ras am y 7fed safle, ac ar ôl blasu buddugoliaeth am y tro cyntaf ers mis Rhagfyr yn eu gêm flaenorol yn erbyn Aberystwyth bydd yr Adar Gleision yn gobeithio am ddiweddglo cadarn i’r tymor er mwyn cyrraedd y gemau ail gyfle am yr ail flwyddyn yn olynol.

Record cynghrair diweddar: 

Pontypridd: ➖✅✅➖✅

Hwlffordd: ͏✅❌➖➖➖

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.